Newyddion S4C

Angen 'cefnogaeth nid cosb' ar bobl ifanc er mwyn mynd i'r afael â fêpio

18/04/2024
Vape

Cefnogaeth, nid cosb, ddylai fod yn flaenoriaeth wrth geisio helpu pobl ifanc rhag fêpio, medd arbenigwyr. 

Er mwyn mynd i’r afael â’r nifer cynyddol o bobl ifanc sy’n fêpio, mae angen cynnig mwy o gymorth iddyn nhw roi'r gorau i'r arfer, meddai grŵp arbenigol o Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Dylai plant sy'n gaeth i fêpio gael glytiau nicotin (nictoine patches) neu gwm i'w helpu i dorri eu dibyniaeth, medden nhw.

Dywedodd y grŵp yn eu hadroddiad ddydd Iau y dylai fêpio gael ei ystyried fel “mater o ddibyniaeth” yn hytrach na “gweithred o gamymddwyn bwriadol” ar ran pobl ifanc, a bod angen i wasanaethau cymorth adlewyrchu hynny. 

Maen nhw’n galw am wahardd fêps untro, gan hefyd alw am gyflwyno pecynnau plaen ar gyfer y teclynnau, a chyfyngu ar yr ystod eang o flasau ac enwau sydd ar gael, er mwyn sicrhau nad yw fêpio yn apelio i bobl ifanc. 

Mae'r grŵp hefyd yn dweud mai  newidiadau i becynnau a hysbysebu fyddai "un o'r mesurau mwyaf effeithiol” wrth fynd i’r afael â fêpio ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru.

'Consensws clir'

Ychwanegodd yr adroddiad bod angen “dadnormaleiddio fêpio” gan sicrhau nad yw'n cael ei ganiatáu mewn mannau sy'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Dylai mannau o’r fath, gan gynnwys llefydd sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, gyflwyno polisïau i atal fêpio, meddai’r adroddiad. 

Dywedodd Chris Emmerson o  Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mewn cyfnod byr, mae'r Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad wedi rhoi mewnwelediad hanfodol i'r broblem fêpio ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. 

“Mae consensws clir bod yn rhaid mynd i'r afael â'r cynnydd mewn fepio ymhlith pobl ifanc ar frys, a thrwy barhau i weithio gyda'n gilydd mae gennym y cyfle gorau o fynd i'r afael â'r mater yn gyflym ac yn effeithiol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.