Cefnogaeth i wahardd ysmygu ar gyfer y rhai sydd wedi eu geni ar ôl 2009
Mae Aelodau Seneddol San Steffan wedi cefnogi cynlluniau i wahardd unrhyw un sydd wedi ei eni ar ôl 2009 rhag prynu sigarets.
Mae hynny'n arwain y ffordd at greu cyfraith.
Llwyddodd y mesur nos Fawrth er gwaethaf gwrthwynebiad gan sawl Ceidwadwr blaenllaw, y cyn Brif Weinidog Liz Truss yn eu plith.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Victoria Atkins wrth Aelodau Seneddol y byddai'r cynllun yn creu "cenhedlaeth ddi fwg"
Cafodd y bil ei gymeradwyo o 383 pleidlais i 67.
Ond mae Liz Truss yn dadlau y bydd yn "cyfyngu ar ryddid personol."
Doedd dim gorfodaeth ar aelodau Ceidwadol i bleidleisio dros y cynnig, a chefnogi safiad y llywodraeth.
Pleidleisiodd yr Ysgrifennydd Busnes Kemi Badenoch yn erbyn y bil, tra roedd holl aelodau mainc flaen y Blaid Lafur o blaid y mesur .