Carcharu dyn o Gaernarfon am gamdriniaeth ddomestig dreisgar
Mae dyn 26 oed o Gaernarfon wedi’i garcharu am gamdriniaeth ddomestig dreisgar tuag at ei bartner.
Fe wnaeth Dominic Patchett, o Ffordd y De, Caernarfon, dagu’n fwriadol ac ymosod ar y ddioddefwraig tra’r oedd dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn ystod eu perthynas 12 mis.
Ymddangosodd yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth ar ôl ei gael yn euog o dagu ac ymosod gan achosi niwed corfforol.
Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a thri mis o garchar a'i wneud yn destun gorchymyn atal 10 mlynedd i amddiffyn y ddioddefwraig.
Dywedodd y Swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Dominique Swift: “Cafodd y ddioddefwraig yn yr achos hwn ei cham-drin yn ysgytwol ac arswydus yn ystod ei pherthynas â Patchett.
“Roedd hi’n hynod ddewr i ddod ymlaen ac adrodd am ei ymddygiad a’i droseddau, sydd wedi cael effaith gorfforol ac emosiynol barhaol arni.
“Rwy’n croesawu’r ddedfryd sy’n anfon neges glir y bydd gweithredoedd treisgar mor greulon yn cael eu cosbi.
“Mae mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod yn flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru ac ni fyddwn yn stopio yn ein hymdrechion i ddod â'r rhai sy'n cyflawni trais domestig o flaen eu gwell.
“Rydym yn gwrando ar ddioddefwyr cam-drin domestig ac yn gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn annog eraill a allai fod yn darllen hwn i ddod ymlaen i siarad â ni.”