Newyddion S4C

Seland Newydd yn ystyried Cymru fel ‘esiampl dda’ yn ieithyddol

17/04/2024
Kiri Pritchard-McClean

Mae’r ddigrifwraig o Ynys Môn, Kiri Pritchard-McLean wedi dweud bod Seland Newydd yn ystyried Cymru i fod yn "esiampl dda" yn ieithyddol, ar ôl iddi ymweld â'r wlad fel rhan o gyfres newydd.

Bydd y gyfres Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd yn dilyn y cyflwynydd Alun Williams, y cogydd Chris ‘Flamebaster’ Roberts a’r gomediwraig Kiri Pritchard-McLean yn ystod eu taith i'r wlad.

Er bod Kiri yn enw Māori, a’i mam wedi byw yn Seland Newydd am gyfnod, doedd hi erioed wedi ymweld â’r wlad o'r blaen.

“Roedd gan y bobl cymaint o falchder yn eu gwlad fach a’r iaith Māori,” meddai.

“Yno, mae Cymru’n cael ei ddefnyddio fel esiampl dda – pan maen nhw’n sôn am y defnydd o enwau Māori ar arwyddion ac ati.

“Yn aml ym Mhrydain, mae Cymru’n butt of the joke, felly roedd mor hyfryd bod nhw’n deall cymaint am ein gwlad ni – a bod dim rhaid i ni esbonio fod Cymru’n wlad sydd drws nesa’ i Loegr.

“Roedden nhw’n gwybod am ein diwylliant, ac yn deall bod ni’n ei ddathlu. 

“Roedd ymweliad i Ganolfan Dreftadaeth Māori Te Puia yn Rotorua yn brofiad arbennig iawn wnaeth rili gyffwrdd y tri ohonon ni - gan fod ni gyd yn deall sut beth ydi o i ddod o wlad sydd efo marginalised culture roedden ni’n falch ohono, ac yn deall bod o angen cael ei warchod.”

Mae teithio dramor am gyfnod gyda’r ddau Gymro Cymraeg hefyd wedi rhoi “hyder newydd” i Kiri ddefnyddio’i Chymraeg o ddydd i ddydd.

“Fel dysgwr Cymraeg roeddwn i’n nerfus i fynd ar y daith, ond wnaeth yr holl brofiad wneud i mi sylweddoli fod gen i lawer gwell perthynas efo’r iaith nad o’n i’n ei feddwl,” meddai.

“Wnaeth o roi llawer o hyder i mi ei siarad, ac roedd y gwahaniaeth rhwng safon fy Nghymraeg ar ddechrau a diwedd y daith yn anferth.”

Bydd y gyfres yn dechrau ar S4C ar 17 Ebrill ac fe fydd ar gael hefyd ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.