Newyddion S4C

Herio Vaughan Gething ar roddion i'w ymgyrch ac Amgueddfa Cymru yn y Senedd

16/04/2024
Vaughan Gething

Mae Vaughan Gething wedi ei herio ar roddion i’w ymgyrch arweinyddol a dyfodol Amgueddfa Cymru yn ei sesiwn gwestiynau gyntaf yn Brif Weinidog.

Gofynnodd arweinydd y Blaid Geidwadol Andrew RT Davies am ragor o fanylion am rodd £200,000 a dderbyniodd Vaughan Gething i gefnogi ei ras i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

Derbyniodd Vaughan Gething £200,000 gan gwmni Dauson Environmental Group sy'n cael ei redeg gan ddyn, David Neal, a gafodd ei ddyfarnu'n euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Dywedodd Andrew RT Davies ei fod yn “rodd anferth” a gofynnodd a oedd Vaughan Gething wedi gwario’r arian neu a oedd rywfaint wedi mynd i’r Blaid Lafur.

Wrth ateb, Dywedodd Vaughan Gething nad oedd wedi ffeilio cyfrinfon ei ymgyrch arweinyddol a byddai yn ateb cwestiynau pellach ar ôl gwneud hynny.

Roedd gan Lywodraeth Cymru “hanes da” o wneud y peth cywir, meddai.

“Mae’r rheolau yn ei gwneud yn ofynnol yng nghystadlaethau mewnol Llafur Cymru fod pob rhodd yn cael ei ddatgan, a byddai angen i’r ddwy ymgyrch ffeilio eu cyfrifon ar y diwedd,” meddai.

“Ac wedyn os oes unrhyw arian ar ôl fe fyddai hynny wedyn yn mynd i Lafur Cymru fel rhodd wleidyddol.

“Unwaith y bydd y cyfrifon wedi'u ffeilio, does gen i ddim amheuaeth y bydd diddordeb unwaith eto. Ac edrychaf ymlaen at fod yn glir ynglŷn â hynny.

“Mae angen i mi orffen y cyfrifon ar gyfer yr holl roddion a gefais o symiau amrywiol.”

‘Anghofio ein hanes’

Wrth ateb cwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ar Amgueddfa Cymru dywedodd Vaughan Gething ei fod am weld rhagor o fuddsoddiad yn hanes Cymru.

Ddydd Llun fe wnaeth Vaughan Gething amddiffyn toriadau i gyllideb yr amgueddfa ar ôl pryderon am ddyfodol eu prif safle yng Nghaerdydd.

Roedd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru Jane Richardson wedi dweud ddydd Sul ei bod yn bosib y bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gorfod cau oherwydd diffyg arian i wella cyflwr yr adeilad.

Wrth siarad yn y Senedd dydd Mawrth dywedodd Rhun ap Iorwerth bod arweinydd y Blaid Lafur yn y Deyrnas Unedig, Keir Starmer, wedi addod dod a “rhyfel ar ddiwylliant” i ben.

“Ond yma yng Nghymru, mae arnaf ofn ei fod yn ymddangos fel pe bai'n cymryd y dull gweithredu i'r gwrthwyneb," meddai.

“Mae Cymru wedi anghofio ei hanes ei hun. Ond mae'n ymddangos bod llywodraeth Lafur heddiw yn barod i drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol i ddealltwriaeth sâl o ble maen nhw'n dod a phwy ydyn nhw.”

Dywedodd Vaughan Gething eu bod nhw’n ymdrin â thoriadau yn eu cyllideb gan Drysorlys Llywodraeth y DU.

“Rydw i’n edrych ymlaen at ddyfodol newydd lle mae’n bosibl parhau i fuddsoddi yn y pethau sy’n bwysig yn ein barn ni, gan gynnwys ein hanes,” meddai.

“Rwyf am i bobl fod yn falch nid yn unig o hanes Cymru, ond yn fwy na hynny yn falch o’r dyfodol y byddwn yn ei greu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.