Y Gwarchodlu Cymreig yn caniatáu barfau am y tro cyntaf ers canrif
Mae aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig wedi cael eu gweld gyda barfau am y tro cyntaf ers canrif.
Daw hyn wedi i uwch swyddogion milwrol godi gwaharddiad 100 mlynedd y Fyddin Brydeinig a oedd yn atal milwyr rhag cael barfau tra'n gwasanaethu.
Mae'r milwyr yn y Gwarchodlu Cymreig yn rhan o Adran Aelwydydd y Fyddin Brydeinig (Household Division), ac yn gyfrifol am warchod y palasau brenhinol a chynnal ymgyrchoedd ymladd dramor.
Inline Tweet: https://twitter.com/Official_1WG/status/1779912022324371723
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth, dywedodd y Gwarchodlu: "Mae'r barfau wedi cyrraedd!"
Dyma rheolau newydd y fyddin ar gyfer y barfau:
- Dim ond barf llawn sy'n cael ei ganiatáu
- Mae'n rhaid i hyd y barf fod rhwng gradd 1 a gradd 8.
- Dim tyfiant anghyson neu anwastad
- Dim lliwiau annaturiol
Llun: Y Gwarchodlu Cymreig / X