Dyn yn dioddef anafiadau difrifol ar ôl disgyn o raeadr yn Nolgellau
16/04/2024
Mae dyn wedi dioddef anafiadau difrifol wedi iddo ddisgyn o raeadr yn Nolgellau.
Cafodd Tîm Chwilio ac Achub De Eryri eu galw i helpu cerddwr a wnaeth ddisgyn i waelod y rhaeadr am 14:00 ddydd Sul.
Roedd parafeddygon a hofrennydd wedi eu galw i'r lleoliad i gynorthwyo'r tîm chwilio ac achub wrth gludo'r dyn i leoliad diogel.
Cafodd y dyn ei gludo i hofrennydd wedi i aelodau’r tîm ei dynnu allan o'r lleoliad trwy ddefnyddio rhaffau.
Nid yw cyflwr y dyn yn hysbys ond mae'r tîm achub wedi dymuno gwellhad buan iddo.
Llun: Tîm Chwilio ac Achub De Eryri