Arestio bachgen ifanc wedi 'ymosodiad terfysgol' mewn eglwys
Mae bachgen yn ei arddegau wedi’i arestio ar ôl iddo drywanu esgob ac offeiriad yn ystod gwasanaeth yr eglwys yn Sydney ddydd Llun.
Mae'r awdurdodau wedi dweud mai "ymosodiad terfysgol" oedd hwn.
Dywedodd yr heddlu yn Awstralia ei bod yn sicr mai achos o eithafiaeth grefyddol oedd yr ymosodiad, ond mae'r ymchwiliadau yn parhau.
Mae’r awdurdodau wedi gwrthod datgelu pa grefydd y mae’r bachgen dan sylw yn credu ynddo.
Cafodd o leiaf pedwar o bobl eu hanafu yn ystod yr ymosodiad ond dyw eu hanafiadau ddim yn rhai sydd yn peryglu eu bywydau.
Roedd gwasanaeth yr Eglwys Christ The Good Shepherd yn Wakeley yn cael ei ddarlledu ar lif byw pan aeth y bachgen at yr Esgob Mar Mari Emmanuel a'i drywanu yn ei ben sawl gwaith.
Mae’r ymosodwr wedi dioddef anafiadau “difrifol” i’w ddwylo. Mae’n parhau dan warchodaeth yr heddlu.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr eglwys fod yr esgob a’r offeiriad yn parhau mewn cyflwr sefydlog, ac yn gofyn am weddïau pobl.
“Mae’r Esgob a’r Tad yn dymuno eich bod chi hefyd yn gweddïo dros y troseddwr,” meddai’r datganiad.
Llun: Wochit