Trump o flaen llys: Beth yw manylion yr achos yn ei erbyn?
Donald Trump yw’r cyn-arlywydd cyntaf i wynebu achos llys troseddol yn ei erbyn, gan ddechrau am 13.00 ddydd Llun.
Mae’r achos yn ymwneud ag arian y mae erlynwyr yn honni y talodd i’r actores ffilmiau pornograffig Stormy Daniels cyn etholiad arlywyddol 2016.
Maen nhw'n honni bod y taliadau wedi eu cofnodi ar gam fel treuliau cyfreithiol a hynny er mwyn celu tystiolaeth a allai fod wedi gwneud niwed gwleidyddol i’w ymgyrch arlywyddol gyntaf.
Honnir bod Trump wedi gwneud y taliadau hyn drwy'r cyfreithiwr Michael Cohen.
Y dystiolaeth allweddol yw taliad o $130,000 a wnaed i Stormy Daniels, a oedd yn barod i nodi yn gyhoeddus iddi gael rhyw â Trump yn 2006, flwyddyn ar ôl iddo briodi Melania Trump.
Nid yw’r taliadau eu hunain yn anghyfreithlon ond mae Trump wedi’i gyhuddo o dorri cyfreithiau ar gyllido ymgyrch wleidyddol ffederal.
Fe wnaeth hynny, meddai’r erlynwyr, drwy fethu â datgelu arian a ddefnyddiodd er mwyn hybu ei gyfleoedd etholiadol, gan eu cofnodi yn lle hynny fel “treuliau cyfreithiol”.
Mae Donald Trump yn gwadu’r 34 o gyhuddiadau yn ei erbyn yn yr achos llys sydd yn digwydd yn y dalaith lle y cafodd ei fagu, Efrog Newydd.
Mae wedi dweud ei fod yn cael ei erlyn am resymau cyfreithiol gan gyfeirio ato ddydd Llun fel y “Biden Manhattan Witch Hunt Case”.
Pa effaith fydd yn ei gael ar y ras arlywyddol?
Mae Donald Trump yn parhau i ymgyrchu wedi iddo gael ei ddewis fel enwebiad y Gweriniaethwyr ar gyfer yr etholiad Arlywyddol ym mis Tachwedd.
A does dim byd yng Nghyfansoddiad yr Unol Daleithiau sy’n atal Donald Trump rhag sefyll i fod yn Arlywydd os yw’r llys yn ei gael yn euog.
Ond gallai'r achos llys gyfyngu ar ei allu i ymgyrchu ac effeithio ar farn pleidleiswyr ohono.
Mae modd dedfrydu unigolyn i garchar am bedair blynedd ar sail y cyhuddiadau sy’n ei erbyn.
Yn ogystal â hynny mae disgwyl i’r achos llys bara chwech i wyth wythnos, ac mae disgwyl i Donald Trump fod yn y llys ar ddyddiau Llun, Mawrth, Iau a Gwener rhwng 9:30 a 16:30.
Gall hynny hefyd gyfyngu ar faint o amser sydd ganddo i ymgyrchu.
Yn y cyfamser mae Donald Trump yn wynebu tri achos troseddol arall yn ei erbyn a sawl achos sifil.