Covid-19: Arwyddion fod rhai yn llai awyddus i gymryd y brechlyn
Covid-19: Arwyddion fod rhai yn llai awyddus i gymryd y brechlyn
Mae arwyddion o bobl yn llai awyddus i gymryd brechlyn Covid-19 ymhlith rhai pobl iau, yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Dywedodd y Prif Weinidog: "Rydym yn gweld rhai arwyddion bach nawr o oedi, niferoedd is yn dod yn eu blaen, yn yr oedran 30-39".
Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod 68.7% o'r grŵp wedi derbyn dos cyntaf, gyda 7.6% wedi derbyn dau ddos.
Fe bwysleisiodd Mr Drakeford bwysigrwydd cymryd dau ddos o'r brechlyn er mwyn cael yr amddiffyniad gorau posib rhag y feirws.
Roedd y Prif Weinidog yn arwain cynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener i roi diweddariad ar ledaeniad amrywiolyn Delta.
Ni chafodd unrhyw gyfyngiadau eu llacio ddydd Gwener wrth i'r llywodraeth aros am fwy o dystiolaeth am effaith y brechlyn ar yr amrywiolyn.
Roedd y cabinet wedi cytuno'r wythnos ddiwethaf i beidio llacio'r cyfyngiadau oherwydd yr amrywiolyn hwn, sydd bellach wedi dod yn brif amrywiolyn Covid-19 yng Nghymru.
Dywedodd Mr Drakeford: "Pan ni'n cyrraedd y pwynt pan mae pob un ohonon ni wedi cael dau dos o'r brechlyn, byddwn ni'n fwy ymwybodol am yr effaith mae hwnna yn mynd i gael ar y perthynas rhwng cwmpo'n dost ar un llaw ac y nifer o bobl sydd mor dost bydd rhaid iddyn nhw gael triniaeth yn yr ysbytai ar yr ochr arall.
"Os mae y brechlyn yn mynd i gael effaith positif ar y perthynas rhwng cwmpo'n dost a mynd i'r ysbyty, alla i weld popeth odden ni'n gallu 'neud ar lefel un o'r cyfyngiadau sydd 'da ni yn eu le".
Fyddai hyn yn cynnwys galluogi mwy o bobl i gymysgu, gan gynnwys mewn lleoliadau dan do, a newid rhai o'r rheolau o fod yn gyfraith gwlad i fod yn gyngor.
Dywedodd y Prif Weinidog fod amrywiolyn Delta wedi "symud yn gyflym" dros yr wythnosau diwethaf.
Mae'r gyfradd o achosion Covid-19 ar draws Cymru wedi cynyddu i 37 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth, ac fe ddywedodd Mr Drakeford fod y cynnydd "wedi ei yrru gan amrywiolyn Delta".
Dywedodd fod y gyfradd ar ei uchaf yn y gogledd lle mae gan bedwar awdurdod lleol gyfraddau yn uwch na 50 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth.
Ond, roedd y Prif Weinidog yn pwysleisio fod yr achosion o'r feirws yn uwch ymhlith pobl ifanc.
Ychwanegodd fod 15 o bobl yng Nghymru bellach wedi eu trosglwyddo i'r ysbyty wedi iddyn nhw gael ei heintio gan amrywiolyn Delta.
Dywedodd Mr Drakeford hefyd fod Cymru yn debygol o gyrraedd "brig y don" o achosion Covid-19 yn hwyr fis nesaf.