Cyngor sir cyntaf Cymru i ymrwymo i gydraddoldeb rhyw eu haelodau
Mae'r cyngor sir cyntaf yng Nghymru wedi cytuno ar gynnig i sicrhau cydraddoldeb rhyw yn yr etholiadau lleol flwyddyn nesaf.
Fe gytunodd Cyngor Sir Fynwy yn unfrydol i'r argymhelliad gyda'r bwriad o sicrhau fod cynghorwyr etholedig yn "adlewyrchu cymaint â phosibl y trigolion y maent yn eu cynrychioli".
Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan Arweinydd y Cyngor, Richard John, mewn cyfarfod llawn o'r Cyngor ddydd Iau, 24 Mehefin.
Cafodd diwygiad ei gefnogi i gydnabod nodweddion gwarchodedig.
Dywed y cyngor fod eisoes ganddynt gabinet sy'n gytbwys o ran rhywedd wedi i'r Cynghorydd Sara Jones gael ei phenodi yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor fis diwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd Richard John: “Nid oes yr un cyngor yng Nghymru erioed wedi cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac mae llawer o gynghorau bron yn ddynion hŷn yn gyfan gwbl, sydd yn yr oes sydd ohoni’n rhyfedd iawn, felly rydym wedi cytuno i anelu at fod y cyntaf i sicrhau democratiaeth leol gwbl gynhwysol.
“Mae cyngor sy’n adlewyrchu ein cymuned yn ei chyfanrwydd mewn gwell sefyllfa i gynrychioli’n ddigonol yr ystod eang o safbwyntiau a phrofiadau preswylwyr.
“Mae yna gysylltiad uniongyrchol rhwng cyfansoddiad cyngor – a’i weithgareddau – y pynciau y mae’n eu trafod, y polisïau y mae’n craffu arnynt a’r penderfyniadau y mae’n eu gwneud.
“Rydym bellach wedi cytuno bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn nod sy’n werth ymdrechu amdano ac y byddwn i gyd yn cymryd camau i sicrhau bod gan breswylwyr ystod amrywiol o ymgeiswyr i ddewis ohonynt y flwyddyn nesaf".
Llun: Jaggery (drwy geograph)