Ynysoedd Baleares Sbaen, Malta a mwy ar restr werdd teithio
Mae cyfres o newidiadau wedi eu cyflwyno i'r rhestr oleuadau traffig ar gyfer teithio rhyngwladol.
Fe fydd Ynysoedd Baleares Sbaen ymhlith y lleoliadau sy'n symud i restr werdd teithio rhyngwladol am 4 o'r gloch fore Mercher, 30 Mehefin.
Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn dilyn diweddariad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gynharach.
Caiff y rhestr oleuadau traffig ei hadolygu bob tair wythnos i adlewyrchu lledaeniad presennol Covid-19 yn y gwledydd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Rydym yn ailddechrau teithio rhyngwladol. Ond nid yw’r pandemig ar ben, a diogelu iechyd y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth o hyd.
"Rydym yn cynghori’n gryf o hyd na ddylai pobl deithio dramor oni bai bod hynny’n hanfodol, a hynny oherwydd y risg o ddal y coronafeirws, yn enwedig amrywiolynnau newydd sy’n peri pryder".
Dyma'r rhestr lawn o wledydd fydd ar y rhestr werdd:
- Anguilla
- Antigua a Barbuda
- Ynysoedd Baleares (Ibiza, Menorca, Maiorca a Formentera)
- Barbados
- Bermuda
- Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
- Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
- Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
- Ynysoedd Cayman
- Dominica
- Grenada
- Madeira
- Malta Montserrat
- Pitcairn
- Henderson
- Ynysoedd Ducie ac Oeno
- Ynysoedd Turks a Caicos
Mae chwe gwlad wedi eu symud i'r rhestr goch hefyd, gyda'r Weriniaeth Ddominicaidd , Eritrea, Haiti, Mongolia, Tunisia ac Uganda yn symud i'r rhestr honno pan ddaw'r newidiadau i rym.