Newyddion S4C

Storm Kathleen yn gorfodi cwmnïau teithio i ganslo gwasanaethau

05/04/2024
aberystwyth gwynt

Mae cwmnïau teithio wedi canslo teithiau wrth i'r Swyddfa Dywydd rybuddio y gallai gwyntoedd cryfion achosi problemau ddydd Sadwrn.

Mae'r RNLI wedi annog pobl sy’n bwriadu ymweld â thraethau ac ardaloedd arfordirol i gymryd gofal arbennig wrth i hyrddiau gwynt o hyd at 70mya (112km/awr) gael eu darogan ar arfordir Cymru, ac mae rhybudd tywydd melyn am wynt mewn grym ar gyfer holl ardaloedd arfordirol Cymru ddydd Sadwrn.

Mae'r storm wedi ei henwi'r swyddogol yn Storm Kathleen gan Met Eireann, swyddfa dywydd Iwerddon.

Fe fydd y rhybudd mewn grym o 08:00 fore Sadwrn hyd at 22:00.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai'r gwyntoedd cryfion amharu ar drafnidiaeth a pheryglu bywydau'r rhai sy'n byw ger y môr.

Mae cwmni Stena Line eisoes wedi rhoi gwybod i deithwyr fod teithiau rhwng Caergybi a Dulyn wedi eu canslo ddydd Sadwrn.

Ddydd Gwener fe ddywedodd Rheilffordd yr Wyddfa fod eu holl wasanaethau dros y penwythnos wedi eu canslo oherwydd Storm Kathleen, ac fe gyhoeddodd Zip World Tower ger Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, hefyd y byddai'r ganolfan ar gau dros y penwythnos oherwydd tywydd gwael.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.