Perchennog yn cael ‘sioc’ o ddarganfod bod fflat yn ei ardd yn cyfri fel ail gartref
Mae perchennog tŷ yn Sir Gaerfyrddin wedi dweud ei fod wedi cael “sioc” o ddarganfod bod fflat yn ei ardd yn cyfri fel cartref arall eto.
Dywedodd Tony Jukes, sy'n 77 oed, ei fod bellach yn talu premiwm treth cyngor o 50% ar yr ail eiddo a bod y peth yn “chwerthinllyd”.
Nid oedd wedi ystyried y byddai y “granny fflat” ar ei dir yn cyfri fel eiddo ar wahan, meddai.
Mae bellach yn gobeithio y bydd y cyngor yn ail-ystyried wrth iddo dynnu cegin ar wahan allan o’r ail adeilad a’i droi i mewn i ystafell amlbwrpas.
Dywedodd fod yr ail adeilad yn y gorffennol wedi ei gyfri fel busnes a’i rentu allan, ond ei fod wedi dod a’r trefniant hwnnw i ben yn ystod y pandemig Covid.
Ers gwneud hynny mae wedi derbyn bil treth cyngor am £1,968.57c am yr ail adeilad am ei fod bellach yn cael ei ystyried yn gartref arall ar wahan.
“Fe ges i sioc ofnadwy,” meddai.
“Mae’r granny fflat yn cael ei ystyried yn ail gartref, ac mae’n cael ei drethu ar wahân er nad oes ganddo werth ar y farchnad agored am nad oes modd ei werthu ar wahân.”
'Uno'r anecs'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod unrhyw eiddo a oedd yn cael ei ystyried yn un ar wahan gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gallu cael ei ystyried yn ail dŷ.
Dywedodd Chris Moore, cyfarwyddwr gwasanaethau corfforaethol y cyngor Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod nhw wedi bod yn trafod â Tony Jukes.
“Roedd yr annedd yn eiddo Mr Jukes wedi cael ei ddefnyddio fel llety gwyliau ers rhyw 18 mlynedd yn flaenorol,” meddai.
“Gan nad oedd bellach yn cyrraedd y meini prawf angenrheidiol ar gyfer statws llety gwyliau, sef cael ei osod am 182 diwrnod y flwyddyn, fe ddychwelodd i restr y dreth gyngor o 1 Ebrill, 2023.
“Cawsom ein hysbysu o’r newid hwn drwy ddiweddariad gan y Swyddfa Brisio, a dderbyniwyd ar Chwefror 28, 2024.”
Dywedodd eu bod nhw wedi gofyn i Tony Jukes wneud newidiadau i gynllun y tŷ a darparu tystiolaeth ffotograffig a chopi o'r cynllun llawr diwygiedig.
“Yna byddwn yn adrodd hyn i’r Swyddfa Brisio, er mwyn iddynt ystyried uno’r anecs gyda’r prif eiddo.”
Llun: Tony a Margaret Jukes.