Ffrindiau o'r Ariannin eisiau 'gwireddu breuddwyd' drwy ymweld â Chymru
Ffrindiau o'r Ariannin eisiau 'gwireddu breuddwyd' drwy ymweld â Chymru
“Mynd i Gymru ydy ein breuddwyd orau,” meddai ffrindiau o’r Wladfa ym Mhatagonia sydd wedi dechrau apêl codi arian er mwyn ymweld â Chymru.
Yn wreiddiol o’r Gaiman yn yr Ariannin, mae Meleri Pinciroli, Kiara Ace, Santiago Pires wedi bod yn dysgu Cymraeg ers iddyn nhw fod yn blant ifanc.
Bellach yn 17 oed, mae’r tri yn benderfynol o wireddu breuddwyd drwy ymweld â Chymru am y tro gyntaf, a hynny er mwyn ymarfer yr iaith ag ymweld â chyfeillion sy’n Gymry Cymraeg.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Meleri Pinciroli: “’Dyn ni eisiau mynd i Gymru i ddysgu mwy am yr iaith ac i wella.”
Ychwanegodd Kiara Ace: “’Dyn ni wedi cyfarfod llawer o bobl ifanc sy’n dod o Gymru – ‘dyn ni eisiau mynd i Gymru i gweld nhw unwaith eto a siarad efo nhw.”
‘Breuddwyd’
Yn ddisgyblion ysgol uwchradd Coleg Camwy yn y Gaiman, mae’r ffrindiau wedi codi dros £2,000 er mwyn teithio i Gymru hyd yma.
Ond maen nhw’n gobeithio codi gymaint ag y gallant nhw er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael blas llawn o’r diwylliant.
Gyda’r bwriad o deithio adeg yr haf, mae’r ffrindiau am ymuno â phobl ifanc Cymru drwy fynychu gwyliau cerddoriaeth Tafwyl ym mhrifddinas Caerdydd, yn ogystal â Sesiwn Fawr Dolgellau yng Ngwynedd.
Mae'r tri yn hoff iawn o gerddoriaeth Gymraeg, ac maen nhw hefyd yn ffrindiau gyda'r cerddor ifanc Alis Glyn.
"'Dyn ni'n hoffi Bwncath, Gwilym hefyd, a mae ganddo ni ffrind o'r enw Alis Glyn. Mae hi'n canu a mae hi'n dda iawn," meddai Kiara Ace.
A gyda phrofiad o gystadlu eisoes mewn Eisteddfodau lleol yn yr Ariannin, mae’r triawd yn awyddus i fynychu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar eu taith eleni.
Dywedodd Santiago Pires: “’Dyn ni eisiau mynd i Eisteddfod Cymru achos roeddwn ni’n cystadlu yn yr Eisteddfod ers pan o’n ni’n fach iawn.
“Mae’n freuddwyd i fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol,” meddai.
‘Diolch i’r iaith’
Fe gychwynnodd y tri ohonyn nhw ar eu taith o ddysgu Cymraeg pan yn blant ifanc oedran ysgol gynradd, ac maen nhw’n cael gwers Gymraeg bob wythnos yn yr ysgol erbyn hyn.
Sbaeneg yw iaith y cartref, ond mae’r tri wedi ymrwymo’n llawn i ddysgu’r iaith Gymraeg yn rhugl gan fynychu gwersi ar ôl ysgol.
Maen nhw bellach yn gymwys i eistedd arholiadau dysgu Cymraeg yr un fath ag oedolion yng Nghymru.
Ac maen nhw hefyd yn hybu’r Gymraeg yn eu cymunedau lleol gan dywys ymwelwyr o gwmpas eu hardal leol, gan gynnig teithiau yn y Gymraeg.
Maen nhw’n “diolch i’r iaith” am yr holl bobl maen nhw wedi eu cyfarfod ac yn edrych ymlaen at ymweld â Chymru.
Dywedodd y tri eu bod wedi gweithio’n “galed iawn” i allu siarad yr iaith.
Maen nhw’n parhau i ymgyrchu er mwyn codi digon o arian i deithio i Gymru, gan werthu empanadas, sef math o bastai Sbaeneg, yn eu cymuned; cynnig teithiau ledled eu hardal; a gwerthu bwydydd eraill yn eu hysgol.