Newyddion S4C

Merch tair oed yn derbyn triniaeth i dynnu tiwmor o'i ymennydd

03/04/2024

Merch tair oed yn derbyn triniaeth i dynnu tiwmor o'i ymennydd

Mae Elsi yn dair oed ac yn byw gyda'i chwaer Lowri a'i mam, Eleri, yn Llanrug.

Mae gan Elsi diwmor ar ei hymennydd ac yn gyfarwydd iawn gyda threulio cyfnodau hir yn yr ysbyty.

'Nathon ni sylweddoli bod hi'n dechrau dangos symptomau, o ddim yn licio golau, a'r rheiny'n mynd yn waeth fel oedd yr wythnosau'n mynd ymlaen.

'O'dd hi'n dechra tiltio ei phen i'r dde. O'n i'n poeni bod ganddi broblem efo'i llygad. Es i a hi i'r meddyg teulu. Na'th hi yrru fi'n syth bin i Ysbyty Gwynedd.

'O'n i'm yn disgwyl y newyddion ges i bod ganddi diwmor ar ei hymennydd. Y gobaith oedd cael llawdriniaeth a dod adra. Yn anffodus, mi gafodd lot o gymhlethdodau a fuon ni i ffwrdd am dri mis yn y bloc cyntaf."

"O'dd hynny'n newid byd i ni gyd. Iddi hi ac wrth gwrs i Lowri, ddim efo'r ddwy ohonan ni bob nos.

"Mae'r effaith yn fwy na jest teulu agos. Mae'n mynd at ffrindiau a chydweithwyr a fuon ni'n lwcus iawn o gael cymaint o gefnogaeth gan bobl tra fuon ni yn yr ysbyty."

Yn ôl elusen The Brain Tumour Charity mae dros 500 o bobl yn cael diagnosis o'r cyflwr yng Nghymru bob blwyddyn.

A thiwmor yr ymennydd ydy'r math o ganser sy'n lladd y nifer mwyaf o blant ac oedolion o dan 40 oed.

Yn ôl yr elusen, mae angen gwneud cymaint mwy o waith i fynd i'r afael a'r cyflwr. Ond yn rhyddhad i Eleri, dydy tiwmor Elsi ddim yn ganser.

O edrych at y dyfodol, be ydy'ch gobeithion chi fel teulu?

'Y gobaith ydy fydd Elsi'n gallu mwynhau'r ysgol fel unrhyw blentyn arall a bydd y cymhlethdodau sydd ganddi'n lleihau wrth iddi dyfu.

"Dw i'n ffyddiog mae'n cael y gofal gorau posib. 'Dan ni'n lwcus ofnadwy, ond bod hi'n byw ei bywyd yn hapus braf fel plentyn. Bod hwn ddim yn diffinio hi fel petai." 

Drwy siarad am eu profiad nhw mae Eleri a'i theulu yn gobeithio y bydd 'na fwy o ymwybyddiaeth am y cyflwr yma, a bod teuluoedd eraill sy'n mynd drwy'r un math o brofiad yn sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.