'Anodd creu gyrfa drwy'r Gymraeg' medd YouTuber
Mae YouTuber o Aberdâr sydd â mwy na 500,000 o danysgrifwyr yn dweud bod hi'n her i wneud gyrfa trwy weithio yn y Gymraeg yn y byd cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Tomas Gardiner, neu ReniDrag fel mae'n cael ei adnabod ar YouTube, wrth siarad gyda'r fyfyrwraig Poppy Goggin-Jones ar bodlediad Jomec, y byddai yn hoffi gwneud fideos yn yr iaith ond ei bod hi'n dalcen galed ar hyn o bryd.
"Yn y dyfodol, dwi yn meddwl fod cynulleidfa, gobeithio cynulleidfa enfawr, oherwydd mae'r iaith yn datblygu. Mae fwy o pobl yn siarad e ond ar y foment yn anffodus, mae'n anodd iawn os ti ishe creu gyrfa mas o siarad Cymraeg yn y byd cyfryngau cymdeithasol," meddai.
"Yn y farchnad dwi'n gweithio yn, gyda gemau, a rili ar YouTube, does dim llawer o YouTubers sydd yn siarad Cymraeg a gwneud fideos yn y Gymraeg. Mae 'na nifer fach ohonyn nhw o bobl sydd yn siarad Cymraeg ar YouTube ond eto does dim lot fawr o llwyddiant enfawr."
Mae Tomas yn creu fideos i bobl sydd â diddordeb yn y byd gemau. Mae'n dweud nad oes yna ddigon o bobl yn gwylio cynnwys Cymraeg ar y platfform i sicrhau gyrfa llawn amser.
"Ar y foment, does dim llawer o cynulleidfa am yr iaith Gymraeg yn anffodus. Mae'n anodd i dweud hwnna. Mae yna gynulleidfa ond dim un fawr i creu gyrfa mas o oherwydd does dim digon o pobl sydd yn gwylio cynnwys Cymraeg i creu arian mas o ar YouTube.
"Dwi definitely eisiau mynd lawr y llwybr o siarad Cymraeg ar YouTube yn y dyfodol."
Yn ôl Tomas, mae'r rhan fwyaf o'i gynulleidfa ar YouTube yn dod o'r UDA.
"Mae dros hanner o fy nghynulleidfa i'n dod o'r UDA. Mae'n ddiddorol iawn mai dim ond 20%/30% sy'n dod o Brydain.
"Ers i fi adael ysgol, mae wedi troi fewn i fwy o swydd llawn amser. Ro'n i'n gallu cysylltu efo fy nghynulleidfa yn well oherwydd roedd gen i fwy o amser felly gofyn iddyn nhw beth oedden nhw eisiau gwylio a thrwy wneud yr ymchwil ma, ro'n i'n gallu ffocysu ar cilfach fwy sydd wedi tyfu fy nghynulleidfa."
Gwrandewch ar y podlediad yn llawn yma.