Newyddion S4C

Tri o dan amheuaeth o ymosod ar gyflwynydd teledu 'wedi gadael y DU'

03/04/2024
Pouria Zeraati

Mae tri dyn o dan amheuaeth o fod yn rhan o ymosodiad ar gyflwynydd teledu o Iran yn ne Llundain wedi gadael y DU yn ôl Heddlu'r Met.

Fe gafodd Pouria Zeraati, 36, ei drywanu y tu allan i'w gartref yn Wimbledon brynhawn Gwener.

Mae bellach wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty.

Mae ditectifs wedi dod i'r casgliad fod dau ddyn wedi mynd at Mr Zeraati mewn stryd a'i drywanu cyn dianc mewn cerbyd glas a oedd yn cael ei yrru gan drydydd dyn.

Fe gafodd y car ei ddarganfod yn wag yn ardal New Malden ychydig yn ddiweddarach.

Dywedodd Heddlu'r Met eu bod yn credu bod y dynion wedi teithio i Faes Awyr Heathrow a gadael y DU.

Maent bellach yn cydweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i sefydlu rhagor o fanylion.

Yn ôl y Met, does dim modd cadarnhau'r union gymhelliant hyd yn hyn. Ond maent wedi dweud fod swydd Mr Zeratti a'r bygythiadau diweddar tuag at newyddiadurwyr o Iran yn y DU yn golygu fod yr ymchwiliad yn cael ei arwain gan swyddogion gwrth-derfysgaeth.

Mae Iran wedi gwadu unrhyw gysylltiad gyda'r ymosodiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.