Newyddion S4C

Lulu yn paratoi ar gyfer ei thaith fawr olaf?

02/04/2024
Lulu

Yn ôl y gantores Albanaidd 75 oed, bydd hi'n parhau i weithio a chanu, ond mae hi wedi nodi o'r blaen bod ei thaith ddiwethaf wedi bod yn flinedig a heriol.  

Wrth egluro am ei pharatoadau llym pan ei bod ar daith, dywedodd wrth y BBC: "Dydw i ddim yn siarad cyn hanner dydd.  

“Rwy'n deall pam y byddech yn meddwl fy mod yn dweud celwydd. Ond na. Rwy'n ddisgybledig tu hwnt."

Ychwanegodd: “Rwy'n ceisio osgoi dod allan o fy ystafell tan hanner dydd. Mae hynny'n haws." 

'Jôc'

Wedi ei geni gyda'r enw Marie McDonald McLaughlin Lawrie, bu'n rhaid i Lulu ganslo mwy na 30 o'u chyngherddau yn ystod ei thaith yn 2023, oherwydd effeithiau Covid hir dymor.   

Dywedodd: “Â bod yn onest, pe baech wedi dweud wrthai pan yn 15 oed y byddem yn gwneud fy nhaith ffarwel yn 75 oed, fyddwn i wedi dweud  - jôc yw hynny." 

Bydd ei thaith yn dathlu ei 60 mlynedd yn y diwydiant, ac yn dechrau yr wythnos hon gyda'r sioe gyntaf yn Glenrothes yn yr Alban ar 6 Ebrill. 

Daeth Lulu yn enwog yn 15 oed pan gafodd lwyddiant gyda'i chân Shout. 

Yn 1969, cynrychiolodd y Deyrnas Unedig yn yr Eurovision Song Contest, a daeth ei chân Boom Bang-A-Bang yn gydradd gyntaf, ond bu'n rhaid iddi rannu'r wobr gyda Ffrainc, Yr Iseldiroedd a Sbaen, a gafodd 18 pwynt hefyd.

Llun: Raph_PH Wikipedia.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.