Newyddion S4C

Gweithwyr dyngarol wedi cael eu lladd yn Gaza

02/04/2024
Gaza

Mae saith o weithwyr dyngarol gan gynnwys person o Brydain wedi cael eu lladd yn Gaza. 

Yn ôl yr elusen World Central Kitchen (WCK) mae gweithwyr dyngarol Palesteinaidd, o’r Deyrnas Unedig, Awstralia, Gwlad Pwyl a rhai gyda chenedligrwydd deuol o'r Unol Daleithiau, a Canada wedi eu lladd. 

Mae sylfaenydd yr elusen José Andrés wedi dweud iddynt gael eu lladd "mewn streic awyr gan Luoedd Amddiffyn Israel (IDF)".

Mae swyddfa gyfryngau Gaza sy'n cael ei rhedeg gan Hamas hefyd wedi beio Israel. 

Brynhawn Mawrth, cyhoeddodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu bod eu hymosodiad "anfwriadol" wedi lladd "bobl ddiniwed" yn Gaza. 

Mewn neges fideo, dywedodd: "Yn anffodus, yn y 24 awr ddiwethaf, roedd achos trasig pan darodd ein lluoedd bobl ddiniwed yn anfwriadol ar Lain Gaza.

"Mae'n digwydd mewn rhyfel, rydym mewn cyswllt â'r llywodraethau, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto."    

Dywedodd byddin Israel eu bod yn cynnal "adolygiad trylwyr" o'r ymosodiad.

Mewn datganiad, dywedodd WCK ei bod yn “ymwybodol o adroddiadau” bod aelodau o’u tîm wedi cael eu “lladd mewn ymosodiad gan IDF wrth iddynt gefnogi ein hymdrechion dyngarol i ddosbarthu bwyd yn Gaza.

"Mae hyn yn drasiedi. Ni ddylai gweithwyr cymorth dyngarol a dinasyddion byth fod yn darged, byth. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth pan fyddwn wedi casglu'r holl ffeithiau."

Yn ôl adroddiadau, roedd y gweithwyr wedi bod yn rhan o’r gwaith o gydlynu nwyddau o gwch arall oedd yn cario cymorth bwyd i ganol Gaza.

Dywedodd Adrienne Watson, llefarydd ar ran Cyngor Diogelwch Cenedlaethol y Tŷ Gwyn, ar X bod yr hyn sydd wedi digwydd yn "dorcalonnus ac yn gythryblus iawn".

“Rhaid amddiffyn gweithwyr dyngarol wrth iddynt ddarparu cymorth y mae dirfawr ei angen, ac rydym yn annog Israel i ymchwilio’n gyflym i’r hyn a ddigwyddodd.”

Mae Prif Weinidog Awstralia, Anthony Albanese, wedi cadarnhau bod y gweithiwr dyngarol Lalzawmi “Zomi” Frankcom ymhlith y rhai gafodd eu lladd ac wedi cydymdeimlo â theulu a ffrindiau.

Mewn datganiad, dywedodd bod yr hyn sydd wedi digwydd yn "gwbl annerbyniol."

Ychwanegodd fod Awstralia’n disgwyl i rywun "gymryd cyfrifoldeb" a bod hyn yn “drasiedi na ddylai byth fod wedi digwydd”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.