Meithrinfa Gymraeg wedi dod o hyd i gartref newydd ar ôl tân
Bydd meithrinfa Gymraeg a gafodd ei dinistrio wedi tân yn yr adeilad yn ail-agor mewn safle parhaol yn ystod yr haf.
Fe gafodd meithrinfa Wibli Wobli yn ardal Tŷ-du (Rogerstone) ar ystâd ddiwydiannol yng Nghasnewydd ei dinistrio wedi tân enfawr yn yr adeilad ym mis Ionawr.
Ond mae’r perchennog, Natasha Baker, bellach wedi cadarnhau y bydd y feithrinfa yn ail-agor mewn safle parhaol ym Mharc Cleppa yng Nghasnewydd ar 3 Mehefin.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru fore Llun, dywedodd Ms Baker: “Mae lot o waith i ‘neud.
“Rhaid i ni ‘neud hwn jyst ar speed dros dwy/tair mis.
“Felly rhaid i ni neud y gwaith adeiladu ac mae’r gwaith wedi dechrau felly byddwn ni’n cwblhau y gwaith diwedd mis Ebrill a wedyn rhaid i ni hefyd wneud cais cynllunio a cofrestru llawer o bethau newydd. ” meddai.
Dywedodd Ms Baker ei bod wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Casnewydd a’r gymuned leol dros y misoedd diwethaf.
Mae’r feithrinfa wedi bod yn gweithredu dros dro yn ysgol gynradd Parc Tredegar tra'n ceisio dod o hyd i adeilad parhaol.
Mae disgwyl i feithrinfa Wibli Wobli wahodd trigolion lleol i ymweld â'r adeilad newydd ar y diwrnod y bydd yn ail-agor.
Llun gan Darren Thomas Photography
Inline Tweet: https://twitter.com/wibli_wobli/status/1766389156815450300