Newyddion S4C

Tŷ Mawr Wybrnant i dderbyn buddsoddiad o dros £250,000

Newyddion S4C 31/03/2024

Tŷ Mawr Wybrnant i dderbyn buddsoddiad o dros £250,000

Bydd man geni'r Beibl Cymraeg - Tŷ Mawr Wybrnant yn Nyffryn Conwy yn derbyn buddsoddiad o dros chwarter miliwn o bunnoedd, sef y buddsoddiad mwyaf i'r safle ers dros 30 mlynedd. 

Yn gartref i William Morgan wnaeth gyfieithu'r Beibl gan safoni'r iaith Gymraeg, mae'n un o fannau hanesyddol pwysicaf Cymru. 

Y gobaith yn ôl yr ymddiriedolaeth Genedlaethol ydy cynnig profiad gwell i ymwelwyr.

Dywedodd Lois Jones o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bod y "tamprwydd yn broblem mewn unrhyw hen adeilad ac yn sicr mae o yn fan hyn ar y talcen. Ac ar hyn o bryd ma' hynny'n effeithio be' 'dan ni'n gallu gadw yn y tŷ o ran casgliad a be' 'dan ni'n gallu neud yn y tŷ hefyd.

Fe fydd y safle yn derbyn buddsodiad o dros chwarter miliwn gan gyfres o sefydliadau i gynnig profiad gwell i ymwelwyr.

"Y peth mwya' ma'r buddsoddiad yma yn mynd i roi i ni ydy hyblygrwydd. Ffordd 'dan ni'n defnyddio'r adeilad, y casgliad Beiblau. Ma' 'na rhai ohonyn nhw 'di cael eu rhoid i ni. Ma' 'na nodiadau, ma' 'na lythyrau, ma' nhw'n sôn am y cysylltiad personol 'ma ma' pobl 'di neud efo Tŷ Mawr.

"Bod ni'n gallu curadu rheini, a bod 'na reswm i bobl ddod yn ôl, bod 'na arddangosfeydd yn newid."

Ychwanegodd yr hanesydd lleol Eryl Owain: "Adeilad eithriadol o bwysig yn dydy, dyma un o'r adeiladau lleia' sy' gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.

"Ond o ran ei arwyddocâd a'i bwysigrwydd o, i'n hanes ni fel pobl, mae'n un o'r adeiladau pwysica' achos dyma oedd man geni William Morgan, yr Esgob, a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg ym 1588."

Bydd y bennod newydd yn dechrau'r haf hwn wedi cyllid gan gyfres o sefydliadau gan olygu y bydd sawl newid i fan geni'r Beibl Cymraeg wnaeth yn y bôn arwain at ei diogelu hyd heddiw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.