
Cyn-filwr dall ymysg grŵp o bobl a wnaeth gerdded pellter Abertawe i gopa’r Wyddfa

Mae cyn-filwr dall wedi dod ynghyd â chyn-filwyr a gwirfoddolwyr eraill i gerdded dros 100 milltir mewn 24 awr.
Ddydd Sadwrn, fe wnaeth Sheila Bottley ac eraill o Ganolfan y Cyn-filwyr Abertawe gerdded pellter y ddinas i gopa’r Wyddfa ar beiriant cerdded [treadmill].
Roedd y gweithgaredd yn un noddedig, gyda’r holl elw yn mynd tuag at y ganolfan yn St Helen, Abertawe.
Yn ôl Wayne Jenkins, Rheolwr Gyfarwyddwr y ganolfan, Sheila Bottley oedd wrth wraidd y syniad.
“Daeth Sheila, a chyn-filwyr dall ataf ym mis Ionawr eleni i drefnu’r daith, ond roedd yn rhaid i’r daith fod yn her,” meddai Mr Jenkins.
“Roedd yn ymdrech fawr gan bawb. Roedd pawb mor benderfynol.”

Roedd y rheini oedd yn cymryd rhan yn byw gyda phroblemau symudedd, ac anableddau gan gynnwys nam ar y golwg.
Dywedodd Wayne fod y gefnogaeth wedi bod yn wych.
“Roedd mwy a mwy o bobl yn cyrraedd i ddymuno’n dda (iddynt) ac ymunodd rhai hyd yn oed yn y daith gerdded/rhedeg.
“Roedd gennym ni redwyr brwd, rhedwyr marathon ultra, cyn-gomandos y Marines Brenhinol, a Paratroopers.”
Er i’r grŵp gyrraedd 100 milltir cyn y 24 awr fe wnaethon nhw gario ymlaen “fel y mae disgwyl gan gyn-filwyr,” meddai Mr Jenkins.
Am hanner dydd ar ddydd Sul croesodd Sheila y llinell gan gasglu dros £2,600.
“Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y ganolfan yn parhau i redeg ac yn darparu’r gefnogaeth ar gyfer materion iechyd meddwl, lles, cyflogaeth ariannol y mae cyn-filwyr a’u teuluoedd yn parhau i’w hwynebu wrth drosglwyddo o fywyd milwrol i fywyd sifil.”
Mae Canolfan Cyn-filwyr Abertawe yn grŵp cymdeithasol a chymorth sy'n ceisio dod â chyn-filwyr allan o unigedd a rhoi lle iddynt gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.
Prif lun: Llun: ITV Cymru/Wayne Jenkins