Rhybudd i deithwyr ar draws Cymru wedi i eira ddisgyn mewn mannau
Mae gyrwyr ar draws Cymru wedi cael rhybudd wrth deithio ddydd Iau wedi i eira ddisgyn mewn rhannau o'r wlad dros nos.
Fe wnaeth drwch o eira ddisgyn dros ardaloedd yn Abertawe, yn ogystal â rhannau o Sir Gâr, Cheredigion a Gwynedd.
Fe wnaeth rhybudd melyn am eira, oedd mewn grym ar gyfer rhannau mewndirol helaeth o Gymru, ddod i ben 07:00 fore Iau.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud fod amodau rhai ffyrdd yn wael yn sgil y tywydd, gan gynnwys yr A4067 ger Aberhonddu a chyffordd 46 - 47 ar yr M4.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau am eira ar yr A470 yn Nolgellau a'r ardaloedd cyfagos.
Maent yn argymell pobl i gymryd gofal wrth deithio a dim ond ystyried teithio os oes angen yn yr amodau hyn.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai eira achosi oedi i yrwyr a gwneud amodau gyrru yn beryglus.
Fe fydd yr eira a'r glaw yn gwneud eu ffordd o'r de i'r gogledd, gyda'r ardaloedd yn sychu wrth iddi wawrio.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynghori pobl i arafu, cadw pellter oddi wrth gerbydau eraill a rhoi amser ychwanegol ar gyfer y daith.
Prif lun: Eira yn Ngoginan, Ceredigion (Carol Rees)