Newyddion S4C

Galw am gynnydd mawr yn y tâl salwch statudol

28/03/2024
gwaith

Mae angen cynnydd mawr yn y tâl salwch statudol, yn ôl pwyllgor o Aelodau Seneddol.

Mae Pwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin yn dweud nad ydy'r swm bresennol o £109.40 yn cynnig y gefnogaeth ariannol mae gweithwyr ei angen.

Dylai'r taliad godi i £172.48 yr wythnos, medde nhw - awgrym sydd wedi cael cefnogaeth gan undebau.

Dywedodd Paul Nowak, ysgrifennydd y Gyngres Undebau Llafur (TUC): "Dangosodd y pandemig Covid 19 bod yna angen dybryd i newid ein system tâl salwch.

"Mae'n warth bod cymaint o weithwyr ar hyd a lled y wlad sydd mewn swyddi sydd yn ansicr neu â chyflogau isel - y rhan fwyaf ohonyn nhw'n ferched - yn gorfod mynd heb gefnogaeth ariannol pan maen nhw'n sâl."

Annog newid

Yn eu hadroddiad, mae'r Pwyllgor Gwaith a Phensiynau yn nodi fod cyfraddau salwch ac absenoldeb yn y gweithle wedi cynyddu, gyda 185.6 miliwn o ddyddiau gwaith yn cael eu colli yn 2022.

Dywedodd y pwyllgor eu bod yn deall pam nad oedd Llywodraeth y DU eisiau newid y drefn yn syth ar ôl y pandemig, oherwydd y pwysau ychwanegol fyddai hynny wedi rhoi ar gyflogwyr.

Ond maen nhw'n annog newid nawr, gan ddweud bod angen i'r taliadau fod ar gael i fwy o weithwyr.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Syr Stephen Timms:"Mae tâl salwch statudol yn methu yn ei brif bwrpas, sef i weithredu fel rhwyd ddiogelwch i weithwyr sydd angen cymorth ariannol yn ystod cyfnod o salwch." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.