Gwasanaeth bad achub Pwllheli i ddychwelyd 'am gyfnodau' wedi ffraeo mewnol
Fe fydd gwasanaeth bad achub Pwllheli yng Ngwynedd ar gael am y tro cyntaf ers mis Chwefror yn dilyn cyfnod o ffraeo mewnol.
O ddydd Mercher, 3 Ebrill, fe fydd criw’r bad achub dosbarth-D, ar gael “am gyfnod cyfyngedig” wrth i’r orsaf anelu at ddod yn “gwbl weithredol” yn y dyfodol agos.
Fe ddaw wedi i’r RNLI atal gwasanaethau bad achub Pwllheli wedi i’r berthynas rhwng aelodau o’r criw “dorri i lawr yn ddifrifol” yn gynharach eleni.
Mae’r gwirfoddolwyr bellach wedi bod yn “hyfforddi’n galed” yn y gobaith o ddychwelyd i’w gwaith yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Caroline Jones, un o wirfoddolwyr bad achub RNLI Pwllheli: “Mae’n teimlo’n anhygoel i ddychwelyd i’r hyn ‘dyn ni wedi cael ein hyfforddi i wneud.
“Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r criw wedi cyfrannu gymaint o’u hamser a’u hymroddiad i sicrhau ein bod yn barod i ddychwelyd i achub bywydau,” meddai.
Yn ôl Chris Gaskin, y Rheolwr Achub Bywydau, mae dwy rhan o dair o’r gwirfoddolwyr wedi “adnewyddu eu hymroddiad” i’r gwasanaeth, a mae nhw wedi bod yn llwyddiannus wrth recriwtio gwirfoddolwyr newydd yn lleol.
“Mae ymroddiad ac ymrwymiad y criw ym Mhwllheli i’w ganmol. Maen nhw wedi gweithio'n galed iawn i gyrraedd y cam hwn," meddai..
“Mae ‘da ni dîm o arweinwyr cryf ac mae cynlluniau ar y gweill er mwyn galluogi i ni i gynnal gwasanaeth cynaliadwy yn y dyfodol,”.