Newyddion S4C

£150,000 o iawndal i athro o Gymru ar ôl ymosodiad gan ddisgybl

28/03/2024
Author

Mae athro o Gymru wedi derbyn £150,000 mewn iawndal wedi i ddisgybl ymosod arno.

Roedd yr athro, sydd ddim wedi ei enwi, yn dysgu mewn ysgol i fechgyn ag anhawsterau emosiynol ac ymddygiad pan gafodd ei bwnio a'i daro ar ei ben.

Yn ogystal â'r anafiadau, bu'r athro hefyd yn dioddef problemau seicolegol ar ôl yr ymosodiad, meddai ei undeb, yr NAS/UWT.

Mae'n un o nifer o athrawon yng Nghymru sydd wedi derbyn iawndal wedi iddyn nhw ddioddef anafiadau a thrawma seicolegol gan ddisgyblion, yn ogystal ag achosion o wahaniaethu yn y gweithle.

Mae'r undeb athrawon yn dweud eu bod wedi sicrhau bron i £14.3 miliwn o iawndal i’w aelodau yn ystod 2023 o ganlyniad i ddigwyddiadau o'r fath.

Cafodd y  ffigyrau eu cyhoeddi ar drothwy'r cynhadledd flynyddol y NAS/UWT yn Harrogate yng ngogledd Swydd Efrog dros y penwythnos.

'System addysg sy'n methu'

Mewn achos arall, cafodd un pennaeth cynorthwyol dros £43,000 o iawndal wedi iddi gael ei diswyddo mewn modd “annheg.” 

Cafodd yr athrawes 48 oed, oedd hefyd yn dysgu celf a dylunio a Bagloriaeth Cymru, ei diswyddo yn dilyn cyfnod o ailstrwythuro i’r tîm rheoli yn ei hysgol. 

Roedd ei rôl fel pennaeth cynorthwyol dan fygythiad, ac roedd y tîm rheoli yn ystyried cael gwared â’r swydd yn yr ysgol. 

Ond fe gafodd ei diswyddo gan ei chyflogwr, gan gynnwys o’i rôl rhan amser fel athrawes, heb i’w chyflogwr cydymffurfio a pholisi diswyddo'r ysgol.  Ni chafodd cynnig am swydd mewn swyddi gwag chwaith, meddai’r undeb.

Dywedodd Patrick Roach, ysgrifennydd cyffredinol NASUWT: “Mae’r iawndal rydym wedi’i sicrhau ar gyfer athrawon sydd wedi dioddef niwed corfforol a meddyliol, yn ogystal â gwahaniaethu a cham-drin yn y gweithle yn nodweddiadol o system addysg sy’n methu yn ei dyletswydd i ofalu am weithwyr. 

“Ni all unrhyw swm o iawndal wneud yn iawn am yr effaith ddinistriol caiff anafiadau corfforol a meddyliol ar bobl yn y gweithle,” meddai.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.