Newyddion S4C

Cadarnhad y bydd Rob Page yn parhau fel rheolwr Cymru

27/03/2024

Cadarnhad y bydd Rob Page yn parhau fel rheolwr Cymru

Yn dilyn y torcalon o golli yn erbyn Gwlad Pwyl yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Euro 2024 nos Fawrth, mae cyn-chwaraewr Cymru Joe Allen wedi dweud fod Rob Page yn 'haeddu'r siawns' i barhau fel y rheolwr.

Fe gollodd Cymru 5-4 o giciau o'r smotyn yn erbyn Gwlad Pwyl, wedi gêm heb goliau ar ôl 90 munud a 30 munud o amser ychwanegol.

Ddydd Mercher, wedi'r gêm, cadarnhaodd Llywydd Cymdeithas Bel Droed Cymru y byddai Rob Page yn parhau fel rheolwr.

Dywedodd Steve Williams:"Gall y Gymdeithas gadarnahau mai Rob Page fydd y rheolwr ar gyfer yr ymgyrch sydd i ddod. Rob yw'r rheolwr. Mae ei gytundeb yn rhedeg hyd at Gwpan y Byd, a dyna sut y byddwn ni'n parhau i weithio."

Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd cyn-chwaraewr canol cae Cymru Joe Allen y dylai Rob Page gael aros yn ei swydd.

"Dou peth chi'n edrych allan am yw a ydy'r chwaraewyr yn cefnogi'r rheolwr? Ma' hwnna'n amlwg iawn, ac a ydy'r dyfodol yn edrych yn braf ac a ydy'r tîm yn gwella, ac mae hwnna hefyd yn amlwg.

"Felly yn fy marn i, mae'n haeddu'r siawns i gadw fynd. Mae 'di cael llwyddiant o'r blaen, a dwi'n siŵr bydd e'n gofyn am y siawns i fod 'na unwaith eto."

Ychwanegodd Rob Page ar ôl y gêm bod y canlyniad yn un anodd ei gymryd.

"Mae'n gêm greulon, ac fel dywedais i wrth y chwaraewyr, roeddem ni un gic i ffwrdd o fynd i'r Ewros, ac mae hynny'n brifo."

Balchder

"Dwi'n meddwl mai ni oedd y tîm gorau. Fy neges i i'r chwaraewyr yn ystod yr egwyl oedd mai ni oedd y tîm gorau, ac fe fyddan ni'n ennill y gêm."

Eglurodd Page hefyd bod yn rhaid eilyddio David Brooks, oedd eisoes wedi dod ymlaen fel eilydd, oherwydd ei fod yn sâl.

"Dylai'r genedl fod yn falch ohonyn nhw oherwydd maen nhw wedi gweithio mor galed heno i drio'n cael ni i'r Ewros. Felly rydym ni'n siomedig ond fe fyddwn ni'n gryfach o orfod mynd trwy'r profiad erchyll yma," meddai.

Neges Page ar ddiwedd yr ymgyrch oedd bod angen edrych ymlaen at y dyfodol.

"Dwi newydd ddweud wrth y grŵp, rydym ni'n mynd i rywle. Mae'r tîm yma yn mynd i rywle. Maen nhw mor siomedig nad ydyn nhw wedi llwyddo, mae ganddynt yr angerdd amdano," meddai.

"Mae yna dal lot i ddod, a lot o amseroedd da o'n blaenau ni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.