Torcalon i Gymru ar ôl colli ar giciau o'r smotyn yn erbyn Gwlad Pwyl
Roedd llifoleuadau Stadiwm Dinas Caerdydd wedi goleuo sawl perfformiad disglair gan Gymru ers i'r lleoliad ddod yn gartref i'r tîm cenedlaethol yn y blynyddoedd diweddar.
Ond roedd angen 90 munud arbennig iawn ar Gymru nos Fawrth i sicrhau ei lle yn rowndiau terfynol Euro 2024 yn yr Almaen yn ddiweddarach eleni.
Yn y pen draw - doedd 90 munud ddim yn ddigon i selio buddugoliaeth, na'r 30 munud ychwanegol ddaeth wedyn. Ag fe ddaeth y canlyniad ar ddiwedd y ffordd fwyaf creulon o ddewis enillydd, gyda chiciau o'r smotyn.
Ac nid Cymru aeth â hi - ond Gwlad Pwyl - o 5-4.
Gyda phob tocyn wedi ei werthu cyn y chwiban gyntaf, a'r awyrgylch drydanol arferol yn atseinio yn rhengoedd y Wal Goch, fe fyddai angen i bob un o grysau cochion y tîm cartref fod ar eu gorau i guro gwlad nad yw Cymru wedi ei churo ar gae pêl droed ers 51 mlynedd.
Ac er fod y fuddugoliaeth o 4-1 yn erbyn y Ffindir nos Iau ddiwethaf wedi codi gobeithion, roedd curo Robert Lewandowski a'i gyfeillion am fod yn her dra gwahanol.
Mwy o Moore
Roedd Kieffer Moore yn dechrau yn y llinell flaen i Gymru ar ddechrau'r chwarae nos Fawrth, ar ôl dod ymlaen fel eilydd yn erbyn y Ffindir yr wythnos flaenorol.
Daniele Orsato o'r Eidal oedd y dyfarnwr oedd gyda'r dasg o gadw trefn ym merw'r stadiwm.
Wedi cwta funud a hanner fe gafodd Gwlad Pwyl gic gosb am drosedd gan Moore ar Dawidowicz.
Ddau funud yn ddiweddarach fe gafodd y Pwyliaid yn y crysau gwyn gic gosb arall hefyd - y tro yma wedi trosedd ar Zalewski gan Roberts.
Tro Cymru oedd hi wedyn i gael cic gosb - trosedd y tro yma ar Johnson gan Piotrowski.
Nerfau
Roedd y 10 munud cyntaf yn un digon nerfus i'r ddau dîm gyda'r brwydro am ddyrchafiad yn digwydd ran fwyaf yng nghanol y cae.
Wedi cwta chwarter awr o chwarae fe ddaeth cyfle i'r Pwyliaid, gyda Frankowski yn chwipio'r bêl o'r dde i Swiderski. Er mawr rhyddhad fe gafodd ei chlirio.
Daeth mwy o bwysau gan yr ymwelwyr gyda chic gornel yn fuan wedyn ond fe lwyddodd Ampadu i glirio i Gymru gan ruthro ymlaen.
Llwyddodd Jordan James i ennill y gic gornel i Gymru ond aeth y bêl heibio i bawb wedi i Kieffer Moore ruthro i mewn.
Roedd y Cymry'n mwynhau cyfnod llewyrchus ar ôl dechrau ychydig yn sigledig, ac roedd bylchau'n ymddangos yn amddiffyn yr ymwelwyr am y tro cyntaf.
Wedi 25 munud roedd yn parhau yn ddi-sgôr, gyda'r dorf yn tawelu ychydig gyda'r tyndra'n amlwg ar wynebau pawb.
Daeth cic gornel i Wlad Pwyl yn fuan wedyn, ond gwastraff oedd yr ymdrech.
Aeth Harry Wilson ar rediad gan daro'r bêl ar draws y gôl ond doedd neb yno i elwa ar y symudiad.
Roedd bylchau'n dechrau ymddangos ar hyd yr ochr chwith yn amddiffyn Gwlad Pwyl - gyda Cymru'n dechrau tyfu mewn hyder.
Cafodd Gymru gôl yn y munudau olaf o'r hanner cyntaf - peniad gan Moore yn dod o hyd i ben Ben Davies - ond roedd yn camsefyll yn ôl y llimanwr. Eiliad o ryddhad i'r Pwyliaid a rhwystredigaeth i'r Wal Goch cyn y chwiban wedi 45 munud.
Hanner amser
Daeth cerdyn cyntaf y noson i Jakub Piotrowski am drosedd ar Moore.
Daeth cic rydd i o hynny i Gymru wedi 47 o funudau - gyda Kieffer Moore yn penio i gyfeiriad y gôl ond fe ddaeth arbediad wych gan Wojciech Szczesny.
Daeth cerdyn cyntaf y noson Gymru wedi 55 munud - Jordan James yn tro hwn yn troseddu.
Fe welwyd fflach o allu Robert Lewandowski funud yn ddiweddarach - ond ei beniad yn gwyro dros y trawst.
Wedi awr o chwarae fe ddaeth cyfnod go flêr i Gymru - ag ambell gic rydd i'r ymwelwyr ond nid oedd modd iddynt fanteisio ar y cyfleoedd.
Fe ddechreuodd y Wal Goch ganu enw David Brooks wedi cyfnod o bwysau gan y Pwyliaid.
Fe ddaeth cic o'r gornel i Wlad Pwyl wedi 64 munud - gyda chyfle eithaf agos i Bednarek yn y cwrt cosbi.
Ychydig o ansicrwydd
Dechreuodd yr ymwelwyr synhwyro nerfusrwydd y Cymry wrth i'r ail hanner ddatblygu.
Daeth cic rydd arall i Wlad Pwyl wedi 67 munud ond doedd neb ar ben arall y bêl wrth iddi wyro i gyfeiriad gôl Cymru.
Daeth cyfle i Gymru funud yn ddiweddarach wedi i Johnson ddarganfod lle ar yr asgell cyn croesi i Moore - ond siomedig oedd ei beniad yn y pen draw ac arbediad hawdd i Szczesny.
Fe gafodd Brennan Johnson ei eilyddio am Dan James wedi 70 munud, gan gynnig cyflymder o'r newydd yn y llinell flaen i Gymru.
Cerdyn melyn wedyn i Wlad Pwyl - i Nicola Zalewski ar ôl 72 munud am ei drosedd.
Cyfle i Gymru - Chris Mepham â pheniad ar un pen i'r cae cyn i'r ymwelwyr gael cyfle wedyn ond ergyd wyllt gan Zalewski'n llawer rhy uchel i daro'r nod.
Gydag ychydig dros 10 munud yn weddill fe ddaeth dau eilydd ar y cae i Wlad Pwyl - Bartosz Salamon a Krzystof Piatek ymlaen yn lle Karol Swiderski a Jan Bednarek.
Daeth cyfle i Dan James ar y postyn pellaf wedi tafliad hir o'r ochr gan Roberts. Ond yn fuan wedyn fe ddioddefodd Roberts anaf gan adael y cae wedi 83 munud.
Daeth David Brooks ymlaen yn ei le - gyda'r tensiwn yn tyfu wrth i'r eiliadau fynd heibio.
Roedd y tensiwn ar wynebau'r cefnogwyr i'w weld yn glir wrth i ddiwedd y 90 munud agosau - a chynyddu wnaeth y tensiwn hwnnw pan gymerodd Lewandowski gic o bell, ond fe wyrodd i'r chwith.
Roed ei ymdrech brin yn arwydd o lwyddiant y Cymry i dawelu'r chwaraewr dylanwadol hwn drwy gydol y gêm.
Yn y munud olaf o'r 90 fe ddaeth awgrym fod trosedd wedi bod ar Moore yn y cwrt cosbi, ond doedd dim tycio ar benderfyniad y dyfarnwr.
0-0 oedd y sgôr ar ddiwedd y 90 - felly roedd yn amser am amser ychwanegol! A'r nerfau'n dipiau...
Amser ychwanegol
Roedd hi'n amser am ymdrech ychwanegol gan yr holl chwaraewyr i gyrraedd y nod.
Cafywd tafliad hir o'r asgell gan Ampadu ar ddechrau'r 30 munud ond doedd dim yn tycio.
Wedi 95 munud o chwarae daeth cic gosb i Gymru - Harry Wilson gydag ymdrech aeth yn syth i mewn i'r mur amddiffynnol.
Cafodd Chris Mepham gerdyn melyn ddau funud wedyn am drosedd - cyn i Moore sicrhau cic gosb i Gymru ar ôl cael ei lorio.
Aeth Zielinski oddi ar y cae wedi 100 munud o chwarae - ac yn fuan wedyn fe ddaeth cyfle i Jakub Piotrowski.
Tro Cymru oedd hi i bwyso - rhediad nerthol gan Moore yn arwain at ddim yn y pen draw yng nghwrt cosbi Gwlad Pwyl.
Di-sgor oedd hi ar ddiwedd y chwarter awr cyntaf o amser ychwanegol - roedd y munudau'n hedfan heibio a'r tensiwn yn cynyddu.
Chwarter awr
Dim ond chwarter awr oedd ar ôl os oedd Cymru am osgoi ciciau o'r smotyn.
Roedd y bylchau'n dechrau tyfu wrth i goesau ddechrau flino - ond pwy fyddai'n manteisio gyntaf? Roedd y Pwyliaid fel eu bod yn fodlon i chwarae'r cloc ag anelu am giciau o'r smotyn.
Daeth Nathan Broadhead ymlaen yn lle Brooks i Gymru gydag ychydig funudau'n weddill - gyda blinder bellach yn effeithio ar bawb.
Bratiog oedd yr ymdrechion olaf ar ddiwedd yr amser ychwanegol - a gyda munud i fynd fe gafod Chris Mepham ail gerdyn melyn, a'i hel o'r cae am drosedd hwyr.
Eiliadau wedi cic rydd fe chwythodd y chwiban i nodi diwedd yr hanner awr ychwanegol. Roedd rhaid wynebu artaith ciciau'r smotyn felly.
Ciciau o'r smotyn
Cerddodd Wojciech Szczesny a Danny Ward gyda'i gylydd i gyfeiriad y Canton End cyn i'r ciciau a'r artaith ddechrau.
Lewandowski aeth gyntaf i Wlad Pwyl - gan daro cic feiddgar i'r chwith.
Ben Davies rwydodd nesaf - er mawr ryddhad i'r Wal Goch, cyn i Szymanski gamu ymlaen a sgorio chwip o gôl i'r ymwelwyr.
Tro Kieffer Moore oedd hi nesaf - ac oddi ar y bar fe aeth y bêl i mewn - yn y pen draw! Ond fe ddaeth Przemyslaw Frankowski i adael ei farc gyda gôl rymus wedyn.
Aeth Harry Wilson ar ei ôl gan sgorio a chadw gobeithion Cymru'n fyw.
Zalewski rwydodd nesaf i Wlad Pwyl - gyda'r pwysau ar sgwyddau Neco Williams yn enfawr. Rhwydodd yntau'n gyfforddus gyda chic i'r dde.
Piatek oedd nesaf - eto'n ergydio'n rymus heibio i Ward aeth i'r ochr anghywir. Roedd gobeithio Cymru yn nwylo Daniel James - ond fe gafodd ei harbed.
Hon oedd cic olaf ymdrech olaf Cymru ar y noson ac yn ystod yr ymgyrch hon - a Gwlad Pwyl oedd yn fuddugol gan ennill 5-4 ar giciau o'r smotyn.