Newyddion S4C

Codwr-peli o Abertawe gafodd ei gicio gan Eden Hazard wedi'i enwi ar restr pobl gyfoethog The Times

26/03/2024
Charlie Morgan

Mae cyn godwr-peli [ballboy] i dím pêl-droed Abertawe wedi'i enwi ar restr pobl gyfoethog The Times.

Fe ddechreuodd Charlie Morgan ei frand fodca ei hun yn 2015 gyda’i ffrind gorau, Jackson Quinn. 

Ers hynny, mae Au Vodka wedi tyfu i gyflogi 52 o weithwyr ar eu safle yn Abertawe ac wedi gwerthu dros 1.6miliwn o boteli, ac adrodd elw o $15miliwn. 

Fe amcangyfrifir gan The Times bod Morgan a Quinn werth tua £55 miliwn rhyngddyn nhw.

Mae'r DJ Prydeinig Charlie Sloth hefyd yn berchen ar ran o'r cwmni.

Ond ddwy flynedd cyn sefydlu'r cwmni fe ddaeth Morgan i’r amlwg am reswm hollol wahanol.

Image
Hazard

Fel codwr-peli 17 oed i dîm Abertawe yn rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn Chelsea, honnir iddo geisio gwastraffu amser ym munudau olaf y gêm, trwy gysgodi’r bêl rhag Eden Hazard pan aeth hi allan am gic gornel.

Rhoddwyd cerdyn coch i Hazard am gicio'r bachgen ifanc mewn rhwystredigaeth.

Aeth Abertawe ymlaen i ennill y gêm, a chodi Cwpan y Gynghrair yn y pen draw.

11 o flynyddoedd ar ôl cyfarfod am y tro cyntaf, fe wnaeth Hazard ail-gwrdd â Charlie i drio’i gynnyrch a'i longyfarch ar ei lwyddiant. 

Ysgrifennodd ar X (yn wreiddiol Trydar) “Rwyt wedi dod yn bell mewn 11 o flynyddoedd fy ffrind.” 

Mae'r poteli aur nodedig o fodca wedi'u hyrwyddo gan bobl fel Floyd Mayweather, Jake Paul, a'r arwr pêl-droed Ronaldinho.

Mae Charlie yn fab i Martin Morgan, perchennog y Morgan's Hotel ac un o gyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Abertawe.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.