Newyddion S4C

Cymru ddim yn cael 'chwarae teg' yn ôl pwyllgor y Senedd

25/03/2024
BBC Sgwar Canolog

Dylai’r BBC gynyddu gwariant yng Nghymru o flwyddyn i flwyddyn nes ei fod yn gyfartal â’r hyn mae’r gorfforaeth yn ei wario yn yr Alban.

Dyna yw canfyddiad adroddiad gan Bwyllgor Diwylliant y Senedd, sydd hefyd yn galw am ragor o arian ar gyfer S4C ac yn apelio ar ITV i gynhyrchu rhagor o raglenni yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae’r BBC yn gwario dwywaith yn fwy ar gynnwys iaith Saesneg yn yr Alban nag yng Nghymru.

Mae £72 miliwn yn cael ei wario ar BBC Scotland a chynnwys lleol ar gyfer BBC One. £36 miliwn yw'r cyfanswm yng Nghymru.

Yn ôl Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd dyw Cymru ddim yn cael  'chwarae teg gan ein darlledwyr'.

"Mae’n ofynnol i’r BBC, ITV ac S4C wasanaethu gwylwyr Cymreig a’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded mewn gwahanol ffyrdd, ond mae’n amlwg nad ydyn nhw’n cyflawni’n llawn yr hyn a ddisgwylir ar hyn o bryd.

“Ni all fod yn iawn bod y BBC yn gwario dwywaith cymaint ar gynnwys Saesneg yn yr Alban ag y mae’n ei wario yng Nghymru – mae talwyr ffi’r drwydded yng Nghymru yn haeddu gwell – rydym yn galw am gynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn y gwariant hyd nes y bydd cydraddoldeb â’r Alban.”

Er mai mater i Lywodraeth y DU yw darlledu, fe edrychodd ymchwiliad y Pwyllgor ar rôl y Senedd a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â darlledu yng Nghymru. 

Mae'r adroddiad yn cytuno â’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar system ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi darlledu, craffu ac atebolrwydd. 

Mae’r Pwyllgor yn galw ar y Senedd i gael y cyfle i gynnal gwrandawiadau cyn penodi gydag ymgeiswyr a ffafrir ar gyfer aelodau Cymru o fyrddau Ofcom a’r BBC a Chadeirydd S4C.

Mae hefyd yn galw am iddi fod yn ofynnol i Lywodraeth y DU gael cytundeb gyda Llywodraeth Cymru wrth benodi Cadeirydd S4C. 

Argymhellion

Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar Ofcom i fynnu bod ITV yn cynhyrchu mwy o’i gynnwys yng Nghymru – mae’n ofynnol i ITV wneud 35% o’i raglenni y tu allan i’r M25. 

Yn ôl data Ofcom, yn 2022, roedd gwariant rhwydwaith ITV ar gyfer DU wedi plymio i bron 0% yng Nghymru. Yn y blynyddoedd diwethaf, roedd y ffigwr tua 5%.

Image
S4C Yr Egin

Mae’r adroddiad yn amlinellu bod angen mwy o arian ar S4C, ynghyd â fformiwla ariannu a fyddai’n rhoi sicrwydd i’r sianel i gynllunio at y dyfodol yn well. 

Mae trefniant ariannu’r darlledwr wedi newid deirgwaith yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf. 

Ers 2010, mae Llywodraeth y DU wedi lleihau cyllid S4C mewn termau real dros 30%. 

Mae’r setliad ariannu hwn yn ‘cyfyngu’n ddifrifol’ ar y darlledwr, yn ôl y pwyllgor, a hynny ar adeg pan fo angen ehangu i ddarparu gwasanaethau ar draws llwyfannau darlledu ac ar-alw. 

Ychwanegodd Delyth Jewell: “Mae darlledu yn chwarae rhan bwysig yng Nghymru – portreadu a llunio hunaniaeth Gymreig. 

“Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol yn ein democratiaeth, gan sicrhau bod llywodraethau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cael eu dwyn i gyfrif. 

“Wrth i dirwedd y cyfryngau modern newid, mae’n hanfodol inni gael hyn yn iawn ar gyfer y dyfodol.

Ymatebion 

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Cymru Wales bod y darlledwr yn gwneud "cyfraniad pwysig i ddarlledu a bywyd cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys darparu dewis amgen i'r BBC yn y maes newyddion a materion cyfoes yn y Gymraeg a'r Saesneg gan ddenu cynulleidfa dorfol."

Mae hefyd yn dweud y byddant yn ymateb i'r adroddiad a'r argymhellion maes o law.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: “Ers ei sefydlu, mae S4C wedi chwarae rhan allweddol wrth ysgogi’r gadwyn gref o gwmnïau cynhyrchu annibynnol sydd wedi eu sefydlu ar draws Cymru.

“Rydym yn falch iawn o fod a’n pencadlys yng Nghaerfyrddin, o fod yn rhan o’r gwaith o sefydlu Stiwdio Aria yn Llangefni, ac yn falch hefyd o’r gwaith cynhyrchu a ffilmio sydd yn digwydd ym mhob cwr o'r wlad.”

Ychwanegodd y llefarydd y bydd S4C yn ymateb 'yn fuan' i'r adroddiad. 

Dywedodd y BBC bod yr adroddiad yn dangos "ymrwymiad y gorfforaeth i fuddsoddi mewn cynnwys sydd wedi ei wneud yng Nghymru a sut mae'r genedl yn elwa o'r penderfyniad i symud mwy o gynyrchiadau tu allan i Lundain."

Mae'r llefarydd hefyd yn dweud bod buddsoddiad mewn radio rhwydwaith ar draws y BBC  sydd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru wedi dyblu a'i bod wedi buddsoddi mewn oriau darlledu ychwanegol gyda Radio Cymru 2. 

Maent yn dweud y byddant yn ymateb yn llawn maes o law.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.