Chwe chriw tân yn ymateb i dân mewn tŷ yn Sir y Fflint
Mae chwe chriw tân yn ceisio mynd i’r afael â thân mewn tŷ yn Sir y Fflint.
Cafodd Gwasanaeth Tân Ogledd Cymru ei alw yn dilyn adroddiad o dân mewn eiddo ym Mrychdyn ddydd Sadwrn.
Cafodd chwe chriw eu galw i ymateb i'r tân - dau o Wrecsam ac eraill o orsafoedd yng Nglannau Dyfrwdwy, Yr Wyddgrug, Bwcle a'r Fflint, gyda 24 o ddiffoddwyr tân ar leoliad. Maen nhw wedi bod yn bresennol ers rhai oriau.
Mae un ysgol awyrol, o orsaf dân Rhyl, hefyd yn cael ei ddefnyddio er mwyn ceisio atal y tân rhag lledaenu.
Mae’r gwasanaeth tân wedi annog trigolion lleol i gau eu drysau a’u ffenestri wrth i’r tân barhau i losgi.
Nid oes unrhyw berson wedi'u hanafu yn y digwyddiad.
Maen nhw hefyd yn gofyn i bobl osgoi’r ardal ar Heol Neuadd Brychdyn gan deithio ar hyd ffyrdd gwahanol le bod modd gwneud.
Inline Tweet: https://twitter.com/NorthWalesFire/status/1771523718591709283
Lluniau: Martyn John Wulfran/X