Newyddion S4C

Plaid Cymru yn galw am ‘dynhau’ rheolau ar roddion gwleidyddol

23/03/2024

Plaid Cymru yn galw am ‘dynhau’ rheolau ar roddion gwleidyddol

Mae Plaid Cymru yn galw am newid i’r rheolau ar y rhoddion all bleidiau gwleidyddol eu derbyn.

Yng Nghynhadledd Wanwyn y Blaid yng Nghaernarfon, bydd yr ymgeisydd Ynys Môn, Llinos Medi yn galw am dynhau’r rheolau yn dilyn “sgandalau” diweddar y Ceidwadwyr a Llafur ynglŷn â rhoddion.

Mae galwadau wedi eu gwneud ar Brif Weinidog y DU, Rishi Sunak a Phrif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, i ddychwelyd rhoddion a derbyniwyd ganddyn nhw.

Yn ei haraith ar ail ddiwrnod y gynhadledd, mae disgwyl y bydd Llinos Medi yn dweud bod etholwyr wedi "colli hyder" mewn gwleidyddion yn dilyn "sgandal ar ôl sgandal."

Rhoddion

Fe wnaeth y Ceidwadwyr dderbyn £10 miliwn y llynedd gan un o brif roddwyr y blaid, Frank Hester, ac mae galwadau ar Mr Sunak i roi’r arian yn ôl.

Daw hynny wedi i sylwadau hiliol honedig a wnaed gan Mr Hester am yr AS Llafur Diane Abbott ddod i’r amlwg. 

Mae Mr Sunak wedi cydnabod bod y sylwadau honedig yn rhai “hiliol ac anghywir” ond yn gwrthod dychwelyd y rhodd ariannol, gan ddweud y dylai pobl “symud ymlaen”.

Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog bellach yn cynnal ymchwiliad i’r sylwadau i geisio canfod a oedd unrhyw drosedd wedi ei chyflawni.

Mae Mr Hester yn gwadu fod y sylwadau yn rhai yn “ymwneud o gwbl â’u rhyw na lliw ei chroen”, ond wedi cysylltu â Ms Abbott i ymddiheuro am y sylwadau “cas”.

Mae galwadau hefyd wedi eu gwneud ar Vaughan Gething, a benodwyd yn Brif Weinidog yr wythnos hon, i ddychwelyd arian a roddwyd iddo fel rhan o’i ymgyrch i fod yn arweinydd Llafur Cymru.

Rhoddodd Dauson Environmental Group ddwy rodd o £100,000 i ymgyrch arweinyddol Mr Gething dros y misoedd diwethaf.

Roedd rhai eisoes wedi codi pryderon am y rhoddion, wedi iddi ddod i'r amlwg i gyfarwyddwr y cwmni, David Neale, dderbyn dedfryd o garchar wedi'i gohirio am droseddau amgylcheddol.

Mae Mr Gething wedi amddiffyn y penderfyniad i dderbyn y rhoddion.

‘Colli hyder’

Mae disgwyl i Llinos Medi, sydd yn arweinydd ar Gyngor Sir Ynys Môn, beirniadu’r ddwy blaid yn ei haraith ddydd Sadwrn, gan honni eu bod yn rhoi "rhoddion arian o flaen gwasanaeth cyhoeddus".

Dywedodd Ms Medi: “Ma' siŵr eich bod chithau fel fi wedi cael llond bol o’r sgandal ar ôl sgandal sy’n dod o San Steffan.

“Pe tai nhw’n rhoi gymaint o ymdrech i redeg y wlad yn lle edrych ar ôl eu hunan efallai bysa ni mewn gwell lle.

“Does dim rhyfedd bo’r cyhoedd wedi colli hyder mewn gwleidyddion.

“A dyma ni’n gobeithio bo Llafur am ddangos gwell esiampl, ond na. Rydym bellach gyda Phrif Weinidog newydd wedi’i ethol gyda mwyafrif bychan iawn ac yntau wedi ariannu ei ymgyrch gyda rhodd ariannol gan unigolyn sydd wedi’i gyhuddo o dorri rheolau amgylcheddol.

“Ble mae’r egwyddorion sylfaenol bywyd cyhoeddus wedi mynd gyfeillion? Mae’n edrych fel bod ‘bank transaction’ yn bwysicach na ‘public service’.”

Yn ôl adroddiad gan y Comisiwn Etholiadol a gyhoeddwyd y mis hwn, fe wnaeth pleidiau gwleidyddol y DU dderbyn bron i £94 miliwn mewn rhoddion ac arian cyhoeddus yn ystod 2023.

Fe wnaeth Plaid Cymru dderbyn cyfanswm o £34,638, gyda £5,000 mewn rhoddion a £29,638 yn arian cyhoeddus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.