Newyddion S4C

Galw ar Vaughan Gething i ddychwelyd rhoddion i'w ymgyrch i arwain Llafur Cymru

Newyddion S4C 29/02/2024
ITV Cymru

Mae cyn-Weinidog yn Llywodraeth Cymru wedi galw ar Vaughan Gething i ddychwelyd rhoddion ariannol i'w ymgyrch i ddod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Rhoddodd Dauson Environmental Group ddwy rodd o £100,000 i ymgyrch arweinyddol Vaughan Gething dros y misoedd diwethaf.

Roedd rhai eisoes wedi codi pryderon am y rhoddion, wedi iddi ddod i'r amlwg i gyfarwyddwr y cwmni, David Neale, dderbyn dedfryd o garchar wedi'i gohirio am droseddau amgylcheddol. 

Ddydd Mercher, cafodd un o is-gwmniau Dauson Environmental ddirwy o £300,000 ar ôl i ddyn farw mewn "digwyddiad trasig" ar eu tir nhw. 

Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn "cydymdeimlo yn ddwys â theulu'r dyn" gan ychwanegu nad oedd e'n gwybod am fanylion yr achos tan y diwrnodau diwethaf.

Bu farw Anthony Bilton o'r Barri pan gafodd ei daro gan beiriant ceibio ar safle Atlantic Recycling Ltd yng Nghaerdydd ar 4 Medi 2019.

Roedd y dyn 59 oed wedi bod yn cerdded drwy'r iard brosesu pren i wneud gwaith atgyweirio arferol pan ddigwyddodd y drasiedi.

Plediodd Atlantic Recycling Ltd, sydd yn is-gwmni i Dauson Environmental Group Ltd, yn euog i dorri'r ddeddf iechyd a diogelwch yn y gwaith. 

Derbyniodd y cwmni ddirwy o £300,000 a'u gorfodi i dalu £29,917.47 mewn costau.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: "Mae Atlantic Recycling yn ymddiheuro'n ddi-amod i deulu a ffrindiau Mr Bilton, am y digwyddiad trasig yma ac am y golled maen nhw'n dioddef bob dydd.

"Rydyn ni'n gwerthfawrogi nad oes unrhyw ddirwy yn mynd i liniaru ar y golled maen nhw wedi ei dioddef." 

Image
Jason Bilton a'i dad Anthony cyn marwolaeth y dyn 59 oed yn 2019
Jason Bilton a'i dad Anthony cyn marwolaeth y dyn 59 oed yn 2019

Beirniadaeth

Ond mae cyn-Weinidog yn Llywodraeth Cymru wedi beirniadu un o'r ymgeiswyr i ddod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru am dderbyn arian gan y cwmni.

Dywedodd y cyn-Weinidog, oedd am gadw ei enw yn anhysbys, wrth Newyddion S4C:

"Roedd y digwyddiad trasig yma yn  2019. Dylai diwydrwydd dyladwy (due diligence) fod wedi canfod yr wybodaeth yma.

"Mae'n codi cwestiynau am grebwyll ac am allu Vaughan Gething i graffu ar fanylion.

"Mae achos moesol cryf i Vaughan Gething ddychwelyd y rhoddion."

'Cydymdeimlo'

Mewn datganiad, dywedodd Vaughan Gething: "Rwy'n cydymdeimlo yn ddwys â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Mr Bilton. Mae'n drasiedi i Mr Bilton golli ei fywyd, ac rwy'n meddwl amdano fe a phawb oedd yn ei adnabod, ar yr adeg anodd yma.

"Mae'r digwyddiad trasig yma'n dangos pwysigrwydd cael y safonau uchaf o ran iechyd a diogelwch mewn lle gwaith. Mae'r mater wedi ei ddelio ag e yn y llysoedd barn fel sydd yn gywir.

"Mae hyn, wrth gwrs, yn fy mhoeni i fel rhywun sydd wedi cefnogi hawliau gweithwyr ar hyd fy oes. Rwy'n meddwl am y teulu yn ystod y drasiedi ddwys hon."

Gall Newyddion S4C hefyd ddatgelu i Dauson Envirnmenmtal Group dderbyn £400,000 gan Fanc Datblygu Cymru ym mis Chwefror y llynedd i helpu gyda phrynu fferm solar.

Byddai angen i Lywodraeth Cymru roi caniatad i godi'r fferm solar, ond byddai Vaughan Gething yn methu gwneud hynny gan ei bod yn ei etholaeth. 

Petai yn dod yn Brif Weinidog, gweinidog arall yn ei lywodraeth fyddai'n gwneud hynny. 

Dywedodd Mr Gething nad oedd e'n ymwybodol o'r cynllun pan dderbyniodd y rhoddion ariannol.

Dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch Mr Gething wrth Newyddion S4C na fyddan nhw’n ymateb i ddyfyniad gan rywun di-enw. 

Mewn llythyr sydd wedi ei rannu â Newyddion S4C, mae arweinydd grwp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn nodi ei bryder am y rhodd ariannol i ymgyrch Vaughan Gething.

Mewn cyfres o gwestiynau, mae’n gofyn am sicrwydd na fydd Mr Gethin yn ymwneud â chais un o is-gwmniau Dauson i godi fferm solar yn ardal Rhymni, Caerdydd. 

Mae'n gofyn pa gamau mae’r Prif Weinidog presennol wedi eu cymryd i “amddiffyn integriti y broses gynllunio wedi’r niwed mae rhodd Dauson Environment Group i’r Gweinidog Economi wedi ei achosi.”

Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.