Newyddion S4C

Mark Drakeford wedi ysgrifennu at y Brenin er mwyn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru

19/03/2024

Mark Drakeford wedi ysgrifennu at y Brenin er mwyn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru

Mae Mark Drakeford wedi ysgrifennu at y Brenin er mwyn ymddiswyddo yn ffurfiol fel Prif Weinidog Cymru.

Yn gynharach roedd wedi gwneud datganiad olaf emosiynol yn y Senedd yn y swydd.

Mae wedi dweud y bydd yn aros ar y meinciau cefn ac yn bod yn “niwsans i bawb, heblaw am y Prif Weinidog newydd”.

Daw hyn wedi i Vaughan Gething gael ei ethol yn arweinydd newydd Llafur Cymru ddydd Sadwrn, ac mae disgwyl iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog ddydd Mercher.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi wynebu “argyfwng parhaol” ers dod yn Brif Weinidog, oherwydd Brexit, tywydd garw, yr argyfwng costau byw, y pandemig a’r rhyfel yn Wcráin.

Roedd yn emosiynol wrth ddiolch i’r Siambr am ei helpu drwy “12 mis anoddaf ei fywyd” yn dilyn marwolaeth ei wraig Clare Drakeford ar ddechrau 2023.

“Ac ni fydd pobl y tu hwnt i'r siambr yn gweld y gweithredoedd bach o garedigrwydd hynny sy'n digwydd bob dydd, gan bobl ym mhob rhan o'r siambr hon,” meddai.

Image
Clapio Mark Drakeford

'Cryfderau ein cenedl'

Wrth gloi siaradodd am yr hyn a oedd yn ei yrru ymlaen yn ystod ei gyfnod yn Brif Weinidog, gan grybwyll ymweliad ag Aberfan lle’r oedd wedi siarad â rhai o’r bobl fu yno ar ddiwrnod y trychineb.

“Roedd yn foment ryfeddol o siarad yn uniongyrchol gyda’n hanes, ein hanes Cymreig,” meddai.

“Roedd ymdeimlad yno o undod, ac o ddioddefaint, o benderfynoldeb i beidio byth ag anghofio beth oedd wedi digwydd yn 1966.

“Fod gennym ni ddyletswydd nid yn unig i’n ffrindiau a’n cymdogion ond i bobl nad oedden ni byth wedi cwrdd â nhw ond sy’n rhan o'n profiad o fod yn Gymry.

“Rydyn ni’n deall bod eu ffawd nhw ynghlwm a’n ffawd ni."

Ychwanegodd Mr Drakeford: “Yno’r diwrnod hwnnw roedd yna benderfynoldeb i beidio ag anghofio beth sydd wedi ei gwneud ni fel ydan ni heddiw.

“Gan ofalu am y bobl sydd angen yr ymdrech hwnnw gan y llywodraeth i ofalu amdanyn nhw. 

“Gan wybod y byddwn gyda'n gilydd bob amser yn gwneud mwy nag y gallwn fyth ei gyflawni ar wahân.

“Dyma gryfderau mawr ein cenedl ni, ac maen nhw wedi fy nghynnal yn yr amseroedd anoddaf dros y cyfnod hwnnw. 

“Rwy'n ddiolchgar i'r holl bobl a helpodd. Ac rydw i’n ddiolchgar am y bobl yr ydym yn ddigon ffodus i’w gwasanaethu.”

Yn gynharach roedd wedi ateb cwestiynau yn ystod ei sesiwn holi’r Prif Weinidog olaf, gan gynnwys cwestiynau ar beth oedd gan ei olynydd i’w ddysgu ganddo.

Dywedodd Mark Drakeford nad oedd Vaughan Gething “angen cyngor gen i”.

“Mi wnes i ei wylio yn ystod y pandemig ac yn gwybod pa mor ofalus mae’n gwneud penderfyniadau,” meddai.

Image
Andrew RT Davies a Mark Drakeford
Andrew RT Davies a Mark Drakeford

'Empathi'

Mewn ymateb emosiynol dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod Mark Drakeford wedi dangos "llawer iawn o garedigrwydd" tuag ato.

Dywedodd bod Mark Drakeford wedi ysgrifennu llythyr yn dymuno yn dda iddo yn ystod cyfnod o salwch.

Roedd rhai pobl yn meddwl eu bod nhw'n eu casáu ei gilydd, meddai, ond "angerdd ac argyhoeddiad" oedden nhw'n ei deimlo a "dyna beth ddylai gwleidyddiaeth fod yn ei gylch".

"Dyna beth rydych chi wedi dod ag o i rôl y prif weinidog," meddai.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn "falch" o'r hyn yr oedd ei blaid wedi ei gyflawni mewn cytundeb gyda llywodraeth Lafur Mark Drakeford.

Dywedodd fod gan Mark Drakeford "empathi, tosturi a charedigrwydd, mewn cyferbyniad llwyr â Llywodraeth y DU".

Roedd hefyd wedi "dangos y rhinweddau personol rydyn ni i gyd eu heisiau gan y rhai sy'n ceisio'r swydd uchaf".

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.