Elusen yn achub 5,000 o gŵn ers ei sefydlu: Rhif sydd yn rheswm i ddathlu?
Agorodd canolfan ailgartrefu cŵn Hope Rescue yn 2017, ac yn ddiweddar mae’r staff wedi achub eu pum milfed ci - Terrier tair blwydd oed o’r enw Navy.
Cafodd Navy ei anfon i’r cartref cŵn yn gynharach yn y mis, ac mae'n gam y mae Hope Rescue yn dweud sydd wedi ei achub o ddyfodol "nad oes modd ei ddychmygu".
Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan bod “perchnogion yn cael trafferth gofalu am eu hanifeiliaid anwes” ar hyn o bryd, a bod “miloedd o gŵn mewn angen” o ganlyniad.
Mae’r elusen yn gweithio dros chwe awdurdod lleol yng Nghymru gan gynnwys Merthyr Tudful, Torfaen, Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a hanner gorllewinol Bro Morgannwg.
Maen nhw’n derbyn tua 150-200 o alwadau bob mis gan berchnogion sydd “methu ag ymdopi.”
Eglurodd y llefarydd bod yr elusen yn “dathlu’r gwaith mae’r tîm wedi’i wneud a hefyd y bobl sydd wedi ein helpu ni, ond mae’r emosiynau'n gymysg iawn oherwydd mae'r hyn sydd gennym yn wych, ein bod wedi helpu cymaint o gŵn, ond mae'n rhoi syniad o raddfa'r broblem."
Yn ôl yr elusen, mae’r ganolfan wedi bod yn llawn ers tua 18 mis, a “chyn gynted ag y mae’r cŵn yn cael eu hailgartrefu, mae mwy yn dod i mewn.”
Canolfannau llawn
Gan fod yr elusen wedi cyrraedd capasiti mae rhaid iddyn nhw dalu am geneli preifat fel datrysiad dros dro tan fod cenel ar gael.
“Mae hon yn gost nad oeddem wedi cyllidebu ar ei chyfer, ond dyma’r unig opsiwn i roi cyfle i’r cŵn hyn. Er mwyn paratoi ci iach arferol, fel Navy, ar gyfer bywyd mae'n ei haeddu, mae'n costio £500 i ni.”
Dywedodd yr elusen bod nifer y cŵn yn eu gofal wedi cynyddu ers i gyfnodau clo Covid-19 ddod i ben, gyda phobl yn sylweddoli nad oes modd iddyn nhw ofalu am eu cŵn wrth fynd yn ôl i’r gwaith.
Mae ffactorau eraill yn cynnwys costau byw cynyddol, a chostau gofal iechyd, a ffioedd milfeddygon a bwyd uwch - sydd oll yn cael eu disgrifio fel “y storm berffaith” ar gyfer lefelau uwch o gŵn yn eu gofal.
Cymorth yn y gymuned
Er mwyn lleihau capasiti mae’r elusen yn edrych ar wneud sesiynau cymorth cymunedol ac addysgol.
Mae hyn yn cynnwys grant o’r loteri genedlaethol sy’n caniatáu iddyn nhw gael rheolwr addysg a hyfforddiant fydd yn gweithio dros y gymuned gyda staff a gwirfoddolwyr.
Mae’r elusen hefyd wedi derbyn grant ar gyfer rhaglenni cymunedol.
Dywedodd llefarydd ei fod yn gwneud synnwyr iddyn nhw weithio gyda’r gymuned er mwyn gwybod pa fath o gefnogaeth sydd angen ar berchnogion cŵn er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu edrych ar eu hôl.
“Ar y foment rydyn ni’n helpu’r cŵn sy’n dod mewn trwy’r gatiau, ond rydyn ni eisiau helpu’r cŵn sydd mas yna yn y gymuned hefyd. Y ffordd orau i wneud hyn yw drwy helpu eu perchnogion."
Llun: Hope Rescue