Newyddion S4C

Sefydlu elusen i ddarparu tystysgrifau i gydnabod pob babi sydd wedi ei golli

19/03/2024

Sefydlu elusen i ddarparu tystysgrifau i gydnabod pob babi sydd wedi ei golli

Poen y profiad.

Ar ôl colli babanod yn gynnar Mae Fiona Hughes ac Emma Telford Owen wedi sefydlu Elusen Pluen Wen i helpu eraill.

Dim ond ar ôl 24 wythnos mae genedigaeth farw yn cael ei chydnabod yng Nghymru.

Cyn hynny, does dim tystysgrif yn gofnod.

21 wythnos oedd Fiona wedi mynd cyn colli.

Mae'n neud i rywun deimlo bod chi heb fod drwy'r broses.

Dach chi ddim wedi cael y profiad.

Sgynnoch chi'm byd i brofi dim tystiolaeth.

Mae'r profiad yn un emosiynol sy'n aros efo chi am byth.

Ond bydda cael tystysgrif mae'n destun sgwrs ar gyfer y dyfodol a'r teulu a'r plant sy'n dod wedyn.

Darn o gerdyn ydy o ond mae'n golygu gymaint jest cael enw dach chi wedi'i ddewis i'ch baban ar hwnnw.

Ar ôl colli un babi'n gynt yn ei beichiogaeth ac un arall yn hwyrach mae Emma wedi gweld pethau o'r ddwy ochr.

Ar ôl 24 wythnos mae 'na fwy o gydnabyddiaeth i fodolaeth y babi.

Mae gen i dystysgrif i roi cydnabyddiaeth ond cyn 24 wythnos, does 'na'm byd.

Dach chi'n dod o'r ysbyty heb ddim byd o gwbl.

Dim enw'r babi lawr yn nunlle na dim.

Dim ots mewn gwirionedd faint o wythnosau sydd wedi mynd mae'r profiad 'run fath i rieni, dydy?

Yn union, yndy. Union 'run teimladau ac emosiynau.

Ond mae rhywun yn teimlo cyn 24 wythnos Dydyn nhw'm yn cyfri'r un fath.

Maen nhw'n amlwg yn.

Mae ystadegau'n awgrymu bod cam-esgor neu golli babi yn digwydd i 1 o bob 4 o ferched drwy'r Deyrnas Unedig.

Yn Lloegr bellach mae modd cael tystysgrif waeth pryd mae'r golled.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n ystyried eu cyflwyno yma hefyd.

Ond yn y cyfamser mae Fiona ac Emma yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd lleol i ddosbarthu tystysgrifau'r elusen ar draws ysbytai'r gogledd.

Mae 'na feddwl a chariad yn mynd at gynllunio'r tystysgrifau i drio ein gorau i wneud yn siŵr bod nhw'n addas.

Ac wedi'u geirio'n gywir.

Yn hollol, a chael pobl eraill i edrych arnyn nhw hefyd.

Dim jest ni a'r dylunwyr.

Cael pobl eraill sydd wedi bod drwy'r profiad.

O ran yr elusen sut fath o ymateb sydd wedi bod hyd yn hyn?

Ar y cychwyn pan oeddan ni'n meddwl fel teulu am roi'r rhain i Ysbyty Gwynedd, nifer fechan oeddan nhw angen.

Ar ôl gweld bod nhw'n cael eu rhannu drwy'r gogledd i gyd maen nhw'n defnyddio 600 o dystysgrifau y flwyddyn.

'Swn i 'di cael cysur mawr o dderbyn rhywbeth fel hyn.

Dyna 'dan ni isio rhoi i bobl eraill sy'n profi'r hunllef yma bod nhw hefyd yn cael rhywbeth i gydnabod eu babis bach arbennig nhw.

Mae'r ddwy yn gobeithio bydd cofnod mwy swyddogol i famau Cymru yn y dyfodol.

Yn y cyfamser, bydd eu hymdrechion yn help i deuluoedd sy'n dioddef fel wnaethon nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.