Newyddion S4C

'Y gofal gore': Rhieni merch yn codi arian at yr elusennau a achubodd ei bywyd

Heno 20/03/2024

'Y gofal gore': Rhieni merch yn codi arian at yr elusennau a achubodd ei bywyd

Mae rhieni merch fach o Sir Gâr a oedd yn ddifrifol wael ar ôl ei geni yn codi arian at yr elusennau a achubodd ei bywyd.

Ddechrau Awst, fe fydd Carwyn Evans, tad Mari Glyn, ymysg eraill yn rhedeg o Ysbyty St Michael's ym Mryste i gartref y teulu yn Llangynnwr, sef taith o dros 110 milltir. 

Ar y ffordd, fe fydd y grŵp yn pasio'r tri ysbyty a achubodd fywyd Mari, sef Ysbyty St Michael's, Ysbyty Singleton ac Ysbyty Glangwili. 

Mae'r teulu yn codi arian at dair elusen a wnaeth eu helpu i achub bywyd eu merch fach.

Yn 28 wythnos yn feichiog, fe gafodd Carwyn a Bethan Evans wybod fod gan Mari hylif o gwmpas ei hymennydd ac roedd hefyd yn llenwi ei hysgyfaint ac yn mynd i lawr ei chefn.

Derbyniodd y teulu ddiagnosis o Congenital chylothorax. Roedd yn rhaid geni Mari yn 31 wythnos mewn cyflwr difrifol mewn ysbyty arbenigol ym Mryste.

'Heriol tu hwnt'

Mewn cyfweliad ar raglen Heno, dywedodd tad Mari, Carwyn: "Diwrnod anoddaf fy mywyd i i weld hi fel 'na, ond yn bwys a hanner, yn pwyso braidd dim.

"O'dd e'n heriol tu hwnt i weld beth oedd Bethan wedi mynd trwyddo yn barod, beth oedd Mari yn brwydro bob dydd, ti jyst yn teimlo fel pam fi, pam ni?"

Ychwanegodd mam Mari, Bethan: "Oedden ni ddim wedi gallu cael ein cwtch cynta' ni tan bo' hi'n bump wythnos oed, ddim wedi gallu dal hi tan oedd hi'n bump wythnos oed."

Wedi chwe wythnos yn yr ysbyty ym Mryste a sawl triniaeth a chyfnodau tywyll, fe wnaeth Mari wella ddigon i ddychwelyd yn ôl i Gymru. 

Treuliodd y teulu chwe wythnos arall rhwng Ysbyty Singleton ac Ysbyty Glangwili yn derbyn triniaethau a gofal, ac fe gafodd y teulu ddychwelyd adref bron i dri mis yn ddiweddarach. 

'Y gofal gore'

Roedd y teulu yn awyddus i ddangos eu gwerthfawrogiad i'r holl ysbytai a wnaeth ofalu am Mari.

"'Na le ddechreuodd y feddylfryd i greu taith Mari adre', i neud pedwar ultra marathon mewn pedwar diwrnod," meddai Carwyn.

"'Na pam ni'n codi arian at y dair elusen 'na nath sicrhau'r gofal gore i Mari ond y gofal gore i ni fod na i Mari a ma'n meddwl y byd i ni bod 'na bobl mas 'na sy moyn cefnogi'r daith gyda ni.

"Ma' beth i fi yn wneud yn ddim byd i gymharu gyda beth mae teuluoedd a phlant yn gorfod mynd trwyddo o ddydd i ddydd. 

"Fydd e yn heriol tu hwnt, fi'n llwyr ymwybodol o 'ny a fyddai mewn poen a fyddai'n mynd mewn i fannau tywyll iawn ond bydd yr atgofion o gofio fel ma' Mari gyda ni nawr - hwnna fydd yn cael fi trwyddo."

Dywedodd Bethan: "Ry'n ni'n ffodus iawn. Does 'na ddim probleme datblygiad. Mae'n dwtsen fach ond mae hi'n gryf iawn, iawn, iawn felly ni jyst yn ffodus tu hwnt. Mae hi'n neud yn gwbl anhygoel."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.