ASau yn pleidleisio yn erbyn newidiadau i Fesur Rwanda
Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio yn erbyn newidiadau Tŷ’r Arglwyddi i Fesur Rwanda, sydd â’r nod o anfon ceiswyr lloches i’r wlad yn nwyrain Affrica.
Fe gafodd pob un o’r 10 newid, gan gynnwys caniatáu i lysoedd gwestiynu diogelwch Rwanda, eu gwrthod.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod Rwanda yn ddiogel.
Yn ôl y Goruchaf Lys, mae'r Mesur Rwanda yn anghyfreithlon oherwydd gallai arwain at dorri hawliau dynol.
Nod y gyfraith arfaethedig yw sicrhau y gall y DU anfon ceiswyr lloches i Rwanda drwy ddatgan ei fod yn lle diogel.
Dywedodd Michael Tomlinson, gweinidog y Swyddfa Gartref, wrth Dŷ’r Cyffredin fod y Mesur Rwanda yn “elfen hanfodol” o warchod y DU.
Ychwanegodd nad oedd y mesur yn mynd yn erbyn rhwymedigaethau rhyngwladol y Llywodraeth.