Newyddion S4C

Sefydlydd Merched y Wawr Zonia Bowen wedi marw

18/03/2024
Zonia Bowen

Bu farw Zonia Bowen, sefydlydd Merched y Wawr, yn 97 oed. 

O dan ei harweiniad, torrodd cangen W.I yn y Parc, Y Bala i ffwrdd oddi wrth Sefydliad y Merched a sefydlu eu mudiad eu hunain am fod swyddogion Sefydliad y Merched yn gwrthod caniatáu i ferched y Parc weinyddu’r gangen trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Fe sefydlodd Merched y Wawr yn Y Parc yn 1967.

Zonia Bowen oedd Ysgrifennydd Cenedlaethol cyntaf Merched y Wawr ac hefyd golygydd cyntaf eu cylchgrawn ‘Y Wawr’. 

Trefnodd nifer o deithiau tramor y mudiad gan gynnwys taith i’r Undeb Sofietaidd yn 1975. 

Torrodd bob cysylltiad â Merched y Wawr yn 1976 gan ymddiswyddo fel Llywydd Anrhydeddus. 

Roedd nifer o brif swyddogion y mudiad ar y pryd o blaid cynnwys digwyddiadau Cristnogol fel gweithgareddau swyddogol ac roedd hyn yn mynd yn groes i weledigaeth Zonia o sefydlu mudiad fyddai’n agored i bob merch. 

Cafodd Zonia Margarita North ei magu yn Sir Efrog a dechreuodd ddysgu Cymraeg pan roedd yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor yn yr 1940au yn astudio Ffrangeg. 

Yn ddiweddarach, dysgodd Lydaweg a chyhoeddodd lyfrau dysgu Llydaweg cyfrwng Cymraeg. 

Roedd hi a’i diweddar ŵr, y cyn Archdderwydd Geraint Bowen, yn flaenllaw yn ymgyrch Madryn yn erbyn claddu gwastraff niwclear yng nghanolbarth Cymru yn yr 1980au. 

Bu Zonia Bowen hefyd yn weithgar gyda Dyneiddwyr Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.