Newyddion S4C

Y Parchedig Goronwy Evans o Lanbed wedi marw

18/03/2024
Goronwy Evans

Mae'r Parchedig Goronwy Evans, o Lanbed wedi marw yn 82 oed. 

Bu'n weinidog gyda'r Undodiaid am dros 50 mlynedd, gan wasanaethu yng Nghapel Brondeifi yn Llanbedr Pont Steffan am gyfnod hirach nag unrhyw weinidog arall yno. 

Gyda'i wraig Beti, llwyddodd i gasglu dros £1.1 miliwn o bunnau ar gyfer Plant Mewn Angen. Yn ogystal, sefydlodd siop lyfrau’r Smotyn Du yn Llanbed . 

Ac yn 2020, cyhoeddwyd ei fod yn derbyn yr MBE am ei waith elusennol a'i wasanaeth i'w gymuned.

Yn 2021 cyhoeddwyd ei gyfrol Procio’r Cof gan Wasg Y Lolfa. Dywedodd ar y pryd nad hunangofiant traddodiadol yw’r gyfrol: 
 
“Pan ofynnwyd i fi a oedd diddordeb gen i mewn ysgrifennu hunangofiant, fy ateb oedd nad oeddwn yn hapus i wneud hynny o dan y teitl ‘hunangofiant’. 
 
"Yn iaith Ifans y Tryc, 'Sgersli bilîf' bod pawb yn datgelu popeth mewn hunangofiant, mwy na fyddwn i am wneud. Cytunais i gasglu ychydig o’m hanes o dan y teitl Procio’r Cof.”
 
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd ei ofalaeth, Ffrindiau a Chymuned Brondeifi: "Daeth ton o dristwch dros Frondeifi a Llanbed bore heddiw wrth i ni golli Goronwy, ein Gweinidog Anrhydeddus, a’n ffrind.
 
"Daw cyfle i gofio ac anrhydeddu ei wasanaeth a’i gyfraniad amhrisiadwy, ond yn awr fe bwyswn ar ein gilydd mewn hiraeth."
 

Mae'r Parchedig Goronwy Evans yn gadael gwraig, Beti a'u meibion, Ioan Wyn a Rhidian a'u teuluoedd.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.