Image

Fe gafodd tân mewn eiddo yn Nhrecelyn yng Nghaerffili ei achosi gan fatri sgwter trydan.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Heddlu De Cymru fod y tân wedi achosi difrod ofnadwy i ystafell fyw a chegin yr eiddo, gyda difrod mwg hefyd yn yr ystafelloedd gwely.
Mae'r heddlu yn annog pobl i fod yn ymwybodol o'r peryglon sy'n gysylltiedig â batris lithiwm-ion, oherwydd eu bod yn gallu gor-boethi neu arwain at ffrwydradau.
Roedd criwiau tân o Aberbargoed, Abercarn a'r Dafarn Newydd yn bresennol yn y tân.
"Diolch byth, llwyddodd y trigolion a’u pedwar ci i ddianc rhag y tân heb gael eu hanafu," medden nhw.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.