Y canwr Steve Harley wedi marw yn 73 oed
17/03/2024
Mae’r canwr Steve Harley wedi marw yn 73.
Roedd yn enwog am fod yn brif leisydd i’r band Cockney Rebel aeth i rif un yn y siartiau yn 1975 am y gân Make Me Smile (Come Up and See Me).
Roedd wedi bod yn perfformio tan yn ddiweddar ond roedd wedi gohirio cyngherddau er mwyn derbyn triniaeth am ganser.
Dywedodd ei ferch Greta ei fod wedi “marw’n dawel gartref” gan ddweud “gwn y bydd yn cael ei golli’n arw gan bobl ar draws y byd".