Gwlad yr Iâ: Llosgfynydd yn ffrwydro eto ger tref
Mae llosgfynydd wedi ffrwydro unwaith eto ar benrhyn Reykjanes yn ne-orllewin Gwlad yr Iâ.
Mae stad o argyfwng wedi ei gyhoeddi yn y rhanbarth.
Daw hyn yn dilyn ffrwydrad ym mis Rhagfyr ar ôl wythnosau o ddaeargrynfeydd dwys yn yr ardal.
Yn ôl adroddiadau dyma’r ffrwydrad mwyaf pwerus ac mae lafa wedi cyrraedd amddiffynfeydd ar gyrion dwyreiniol tref Grindavik.
Mae pobl wedi eu symud o ardal y Blue Lagoon, un o atynfeydd twristiaeth fwyaf poblogaidd y wlad.
Yn ôl gwasanaeth amddiffyn sifil y wlad fe ddechreuodd y ffrwydrad yn hwyr nos Sadwrn i’r gogledd o Grindavik.
Mae’n agos iawn i’r man lle bu’r ffrwydrad ar 8 Rhagfyr.
Nid yw’r maes awyr rhyngwladol, sydd i’r gogledd orllewin o Grindavik wedi ei effeithio ar hyn o bryd.
Llun: Wochit