Mike Pence yn gwrthod cefnogi Donald Trump
Mae cyn-isarlywydd America Mike Pence yn dweud nad yw’n gallu cefnogi Donald Trump ar gyfer enwebiad y blaid Weriniaethol ar gyfer yr arlywyddiaeth.
Dywedodd Mr Pence, oedd yn is-arylywydd i Mr Trump, “ni ddylai hyn ddod fel syndod”.
Dydwedodd Mr Pence sy’n gyn-lywodraethwr ar dalaith Indiana ei fod yn “hynod falch o record ein gweinyddiaeth” oedd wedi gwneud “ein gwlad yn fwy llewyrchus a diogel”.
Roedd cefnogwyr Mr Trump wedi galw ar Mr Pence i gael ei grogi wrth iddyn nhw ymosod ar y Gyngres ar 6 Ionawr 2021.
Ychwanegodd Mr Pence, oedd wedi tynnu nôl o’i ymgais ar gyfer enwebiad y blaid Weriniaethol: “Rwy wedi gwneud yn glir fod yna gwahaniaethau dwys rhyngof i ac Arlywydd Trump ar sawl mater ac nid yn unig ein gwahaniaethau ar ddyletswyddau cyfansoddiadol wnes weithredu ar 6 Ionawr."