Newyddion S4C

Galw am ail-ystyried cau campws coleg yn Rhydaman

15/03/2024
Coleg Sir Gar Rhydaman

Mae cynghorydd sy’n gwrthwynebu penderfyniad i gau campws Coleg Sir Gâr yn Rhydaman wedi honni nad yw ei gyflwr mor wael ag y mae rhai yn ei ddweud.

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge yr hoffai dderbyn mwy o dryloywder gan y coleg am gyflwr yr adeiladau, gan ddweud ei fod yn "eu herio i wneud yr holl wybodaeth yn hysbys.”

Bythefnos yn ôl daeth i'r amlwg fod y coleg yn bwriadu cau campws Rhydaman, gyda'r ddarpariaeth addysg yn cael ei symud 17 milltir i'r gorllewin i gampws Pibwrlwyd, ger Caerfyrddin.

Dywedodd llythyr gan y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, at Aelod y Senedd dros Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, fod y cyfleusterau yn Rhydaman “yn gyffredinol mewn cyflwr gwael”, yn gostus i’w cynnal ac yn aneffeithlon.

Disgrifiodd AS Plaid Mr Price y bwriad i gau campws Rhydaman fel “ergyd anferth” i’r dref ac mae wedi gofyn am atebion gan Mr Miles, gan gynnwys a oedd wedi codi unrhyw wrthwynebiadau neu bryderon ac a oedd yn rhagweld ymgynghoriad cyhoeddus llawn. 

“Fel rhywun a gafodd ei fagu yn y gymuned hon, gallaf dystio i bwysigrwydd y coleg fel sefydliad addysgiadol lleol amhrisiadwy,” meddai Price.

Dywedodd y Cynghorydd Madge, sy’n cynrychioli’r Garnant yn Nyffryn Aman, ei fod wedi derbyn gwybodaeth yn nodi nad oedd adeiladau’r campws mewn cyflwr mor wael â hynny, er iddo wrthod dweud mwy pan ofynnwyd iddo.

Mae'r cynghorydd Llafur eisiau i'r campws aros ar agor yn y tymor hir. Dywedodd y byddai mynnu bod myfyrwyr yn teithio i gampws Pibwrlwyd, yn ei farn ef, yn “annerbyniol”.

“Mae’r coleg yn bwysig i Ddyffryn Aman, mae'n ymddangos bod popeth yn diflannu yma," meddai.

'Cymorth'

Roedd llythyr Mr Miles hefyd yn dweud bod campws Rhydaman yn fregus i ddioddef llifogydd, a fydd yn cyfyngu ar y potensial ar gyfer datblygu'r safle yn y dyfodol. 

Dywedodd ei fod wedi cael ei sicrhau y byddai cymorth ar gael i fyfyrwyr a staff, gyda chludiant yn cael ei ddarparu i fyfyrwyr o Rydaman i gampws Pibwrlwyd “drwy gydol y cyfnod pontio”.

Dywedodd y llythyr hefyd fod Coleg Sir Gâr wedi cynnig uwchraddio campws Pibwrlwyd fel rhan o adolygiad ehangach yn 2017, a bod achos amlinellol strategol wedi’i gymeradwyo yn 2023.

Dywedodd llefarydd ar ran y coleg: “Roedd rhaglen amlinellol strategol 2017 y coleg yn nodi buddsoddiad ar gampws Pibwrlwyd fel prosiect blaenoriaeth, a gafodd ei gymeradwyo mewn egwyddor, yn amodol ar gymeradwyo achos busnes.

"Roedd yr achos amlinellol strategol a gyflwynwyd yn 2023 yn cynnwys gwerthusiad opsiynau llawn a nododd adleoli cyfleusterau o Rydaman i gampws Pibwrlwyd i greu canolfan hyfforddiant galwedigaethol a thechnegol gynaliadwy newydd o’r radd flaenaf.” 

Mae penaethiaid colegau nawr yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i gwblhau eu cynlluniau, a fyddai hefyd yn arwain at gau campws Ffynnon Job, Caerfyrddin. 

Dywedodd y coleg y byddai ei gampws ym Mhibwrlwyd wedi'i uwchraddio yn gwella profiad myfyrwyr, yn cynnwys cyfleusterau hamdden ychwanegol, ac yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol.

Disgrifiodd Adam Price y bwriad i gau campws Rhydaman fel “ergyd anferth” i’r dref ac mae wedi gofyn am atebion gan Mr Miles, megis a oedd wedi codi unrhyw wrthwynebiadau neu bryderon ac a oedd yn rhagweld ymgynghoriad cyhoeddus llawn. 

“Fel rhywun a gafodd ei fagu yn y gymuned hon, gallaf dystio i bwysigrwydd y coleg fel sefydliad addysgiadol lleol amhrisiadwy,” meddai Price.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.