Newyddion S4C

Un o gymeriadau enwog Gwlad Belg yn ysbrydoliaeth i wisg bêl droed newydd

15/03/2024
Tintin

Mae un o gymeriadau enwocaf Gwlad Belg wedi ysbrydoli'r dewis o ddillad pêl droed newydd y wlad ar gyfer pencampwriaeth Euro 2024.

Fe fydd tîm cenedlaethol y wlad, y 'Diafoliaid Coch', yn gwisgo cit oddi cartref fydd yn cynnwys crys glas golau a throwsus byr brown - yr un lliw a gwisg y newyddiadurwr ifanc ffuglennol Tintin.

Roedd y gyfres boblogaidd yn adrodd hanes anturiaethau Tintin yn cynnwys 24 o lyfrau wedi eu creu gan y cartwnydd a'r awdur Herge.

Dywedodd Piet Vandendriessche, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Belg: “Fel un o gefnogwyr mawr Tintin, rwy’n falch iawn y bydd ein Diafoliaid Coch yn concro Ewrop mewn crys yn seiliedig ar un o arwyr mwyaf Gwlad Belg.

"Rydym wrth ein bodd i dalu gwrogaeth i eicon byd-eang go iawn: Herge. Nid yn unig y daliodd fy nghalon a fy meddwl yn tyfu i fyny, ond hefyd i gymaint o genedlaethau. A dyna'n union beth y mae'r Diafoliaid Coch, ond hefyd y Fflamau Coch, yn ceisio ei gyflawni."

Fe fydd y cit newydd yn gweld golau dydd am y tro cyntaf pan fydd Gwlad Belg yn herio Lloegr mewn gêm gyfeillgar ar 26 Mawrth.

Llun: Adidas/ CBD Gwlad Belg

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.