Newyddion S4C

Emrys Llewelyn Jones, o Gaernarfon wedi marw yn 71 oed

14/03/2024
Emrys Llewelyn

Mae'r hanesydd Emrys Llewelyn Jones, o Gaernarfon wedi marw yn 71 oed.

Roedd yn adnabyddus am ei deithiau cerdded hanesyddol 'Ty'd am Dro Co', oedd yn tywys ymwelwyr o amgylch rhai o atyniadau tref y cofis.

Roedd hefyd yn awdur sawl llyfr am hanes tref Caernarfon, gan gynnwys Stagio Dre.

Roedd Emrys yn briod gyda'r actores a'r awdures Mari Gwilym, ac yn cael ei adnabod gan amryw yng Nghaernarfon fel 'Jo Bach'.

Cafodd ei eni a'i fagu yn ardal Maesincla yng Nghaernarfon, ac wedi parhau i fyw yn y dref ar hyd ei oes.

Roedd yn gefnogwr ac yn chwaraewr rygbi brwd, ac yn gyfaill oes i Glwb Rygbi Caernarfon.

Roedd wedi teithio'r byd fel aelod o dîm chwaraewyr hŷn Y Gogs (Geriatrics O Gymru).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.