Newyddion S4C

Cyfieithu gwael ym maes gofal iechyd 'yn gallu achosi niwed meddygol difrifol'

15/03/2024
Doctoriaid / Nyrsys / Ward / Ysbyty

Gall cyfieithu gwael ym maes gofal iechyd 'achosi niwed meddygol difrifol' yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.

Mae adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn dweud ei fod yn pryderu ar ôl clywed tystiolaeth fod pobl o gefndiroedd lleiafrif ethnig yn "parhau i wynebu canlyniadau gwaeth gan wasanaethau sector cyhoeddus yng Nghymru."

Clywodd y pwyllgor fod un fenyw wedi methu cyfle i dderbyn diagnosis cynnar o ganser ar ôl gorfod dibynnu ar berthnasau heb hyfforddiant meddygol i gyfieithu iddi. 

Dywed y Pwyllgor eu bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddibyniaeth cleifion ar aelodau o'r teulu i gyfieithu iddynt. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y nod i'r wlad fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030.

Dywedodd Is-Gadeirydd Polisi a Materion Cyhoeddus Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, Dr Shanti Karupiah: "Os nad ydych chi’n gallu siarad yr un iaith, mae’n anodd cael gofal priodol. Os bydd camddiagnosis yn digwydd, gall hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw."

Ychwanegodd Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Jenny Rathbone AS: "Roedd yn peri pryder clywed tystiolaeth am gamgymeriadau a chamddiagnosis a all ddigwydd o ganlyniad i gyfieithu annigonol. 

"Gall y rhain ddeillio o ddefnydd cwbl amhriodol o aelodau teulu fel cyfieithwyr mewn lleoliadau meddygol, yn hytrach na gweithwyr proffesiynol hyfforddedig.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y gallai methu â darparu gwasanaeth cyfieithu digonol i unigolion nad ydynt yn gwbl rhugl yn y Gymraeg neu’r Saesneg mewn sefyllfa feddygol fynd yn groes i’w hawliau dynol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu adroddiad y Pwyllgor a byddwn yn ystyried eu hargymhellion yn ofalus. 

"Rydym wedi ymrwymo i yrru ein Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol yn ei flaen a gweithio tuag at sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd lleihau achosion lle mae aelodau'r teulu yn gweithredu fel cyfieithwyr.

"Mae Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru eisoes yn darparu dehonglwyr a chyfieithwyr proffesiynol ar gyfer y sector cyhoeddus ac rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i archwilio dichonoldeb cyfeiriadur o gyfieithwyr."



 



 



 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.