Newyddion S4C

Citiau newydd i Gymru ar drothwy gemau ail-gyfle Euro 2024

14/03/2024
Aaron Ramsey a Brennan Johnson yn gwisgo citiau newydd Cymru

Mae Cymru wedi rhyddhau eu citiau newydd ar drothwy gemau ail-gyfle Euro 2024.

Cafodd y citiau eu rhyddhau ddydd Iau ac maen nhw'n cynnwys crys oddi cartref melyn am y tro cyntaf ers 2020.

Bydd y crys melyn, sydd yn cynnwys patrwm coch a gwyrdd ar ei ochr, yn cael ei wisgo gyda siorts melyn a sanau gwyrdd tywyll.

Dywedodd Adidas, cynhyrchwyr y cit bod y crys oddi cartref wedi ei ysbrydoli gan hetiau bwced sydd yn cael eu gwisgo gan gefnogwyr Cymru.

"Mae het bwced Cymru o'r diwedd wedi cael ei diwrnod gan ysbrydoli eu cit oddi cartref newydd," medden nhw.

Mae'r crys hefyd yn "arddangos traddodiad Cymreig trwy lygaid moderniaeth."

Fe fydd y crys cartref yn goch i gyd â thri streip gwyrdd ar yr ysgwyddau.

Fe fydd siorts a sanau coch yn cael eu gwisgo gyda'r crys hwnnw.

Bydd Cymru yn herio'r Ffindir yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 21 Mawrth yn y rownd gyn-derfynol.

Os ydynt yn ennill y gêm honno fe fyddant yn herio Gwlad Pwyl neu Estonia yn y rownd derfynol yng Nghaerdydd ar 26 Mawrth.

Bydd ennillwyr y gêm honno yn sichrau eu lle yn Euro 2024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.